Newyddion S4C

Galw ar lywodraethau Cymru a’r DU i 'gydweithio' er mwyn creu porthladdoedd rhydd

Newyddion S4C 12/11/2021

Galw ar lywodraethau Cymru a’r DU i 'gydweithio' er mwyn creu porthladdoedd rhydd

Mae busnesau a gwleidyddion ar Ynys Môn wedi galw ar lywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru i gydweithio er mwyn creu porthladd rhydd ar yr ynys.

Byddai derbyn statws o’r fath yn golygu na fyddai nwyddau tramor sy’n cyrraedd porthladd fel Caergybi yn cael eu heffeithio gan drethi a thollau.

Mae Llywodraeth Prydain a Llywodraeth Cymru wedi methu â dod i gytundeb ar y mater hyd yma.

Caergybi yw ail borthladd mwyaf Prydain o ran trosglwyddo nwyddau, ac mae’n cynnig gwaith i dros 1,000 o bobl leol.

Image
bryan owen
Bryan Owen o gwmni Orthios.

Mae cwmni Orthios yn troi hen blastig yn olew ac mae’r cynnyrch wedyn yn cael ei allforio i gwmni Shell yn yr Iseldiroedd.

Fe fyddai statws porthladd rhydd yn gwneud hi’n haws i’r cwmni ehangu a chael mwy o staff, yn ôl Bryan Owen.

“Agoriad ydy hyn i borthladd Caergybi, ac os da ni yn gweithio hefo’n gilydd, a bod y llywodraeth yn y Senedd ac yn Nhŷ’r Cyffredin yn cydweithio, mae o am fod yn fanteisiol i bobl ym Môn,” meddai.

Mae gwaith eisoes wedi dechrau ar sefydlu porthladdoedd rhydd yn Lloegr, gan gynnwys porthladd Lerpwl.

Fis Mai eleni, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart, fod gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddiddordeb mewn creu porthladd rhydd yng Nghymru

Ym mis Hydref, dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn “siomedig bod Llywodraeth y DU wedi lansio porthladdoedd rhydd yn Lloegr gan fethu â chyflwyno cynigion cadarn i Gymru”.

Mae Llywodraeth y DU yn mynnu ei bod eisoes wedi cyflwyno cynnig ariannol i Lywodraeth Cymru.

Wrth ymateb i’r mater yn y gorffennol, mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud ei fod yn disgwyl i borthladdoedd rhydd yng Nghymru dderbyn yr un faint o arian â phorthladdoedd yn Lloegr.

Image
carwyn owen
Y Cynghorydd Carwyn Owen.

Mae’r llywodraeth wedi dweud fod porthladdoedd yn Lloegr yn derbyn £25m, tra bod porthladdoedd yng Nghymru yn cael £8m.

Mae’r Cynghorydd Carwyn Owen o Gyngor Môn wedi galw am degwch.

“Be da ni’n weld ydy lot o osgo gwleidyddol yn mynd ymlaen, a’r ddwy lywodraeth bron ddim yn cydweld na chydweithio ar y mater a dydy hynny ddim yn helpu ni ar Ynys Môn.

“Da ni hefyd wedi clwad bod porthladdoedd yn Lloegr yn mynd i gael tua £20m a bod y cyfartaledd i Gymru yn tua £8m – felly mae ‘na wahaniaeth eithriadol yn y tegwch yma yng Nghymru.”

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud eu bod yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn “gweithio gyda ni i ddod a buddion porthladdoedd rhydd i Gymru cyn gynted ag sy’n bosib”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.