Y Frenhines 'i fynychu gwasanaeth Sul y Cofio' ar ôl cyngor meddygol

Fe fydd y Frenhines Elizabeth II yn mynychu gwasanaeth Sul y Cofio yn y Senotaff, yn ôl Palas Buckingham.
Cafodd y Frenhines, sy'n 95 oed, gyngor i gymryd seibiant gan feddygon rhyw dair wythnos yn ôl.
Treuliodd Ei Mawrhydi noson yn yr ysbyty ar 20 Hydref lle gafodd hi brofion cychwynnol.
Mae'r Evening Standard yn adrodd y gwnaeth hi ddychwelyd i Gastell Windsor ddydd Mawrth wedi iddi dreulio'r penwythnos yn ystâd Sandringham, Norfolk.
Darllenwch fwy ar y stori yma.
Llun: Sarjant Adrian Harlen