Newyddion S4C

Mark Drakeford yn derbyn ei drydedd dos o frechlyn Covid-19

11/11/2021
Mark Drakeford

Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi derbyn ei drydedd dos o frechlyn Covid-19 ddydd Iau.

Cafodd Mr Drakeford y brechlyn mewn canolfan frechu ym Mae Caerdydd. 

Mae'n ymuno â'r 571,198 o bobl sydd bellach wedi derbyn eu brechlyn atgyfnerthu yng Nghymru. 

Mae 2,455,003 nawr wedi derbyn o leiaf un dos o'r brechlyn tra bod 2,250,655 wedi derbyn dau ddos. 

Daw hyn wrth i gyfraddau'r feirws ostwng dros yr wythnosau diwethaf, gyda'r gyfradd achosion dros y saith diwrnod diwethaf ar gyfartaledd yn 489.5 achos i bob 100,000 o bobl. 

Ond Cymru sydd â'r gyfradd uchaf o wledydd y DU, gyda'r Prif Weinidog yn annog eraill i dderbyn eu dos ychwanegol. 

"Mae'n rhaid inni wneud popeth o fewn ein gallu i gadw pawb yn ddiogel gan fod y coronafeirws yn dal gyda ni," meddai. 

"Hoffwn i ddiolch i holl staff a gwirfoddolwyr y Gwasanaeth Iechyd sydd wedi gweithio'n ddiflino dros y misoedd diwethaf, i sicrhau bod y rhaglen frechu wedi bod yn gymaint o lwyddiant yma yng Nghymru."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.