Cau gwarchodfa yn y canolbarth yn sgil achosion o'r Ffliw Adar
Mae gwarchodfa RSPB yn y canolbarth wedi cau ar ôl i achosion o'r Ffliw Adar gael eu darganfod o fewn yr ardal.
Dywed Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion fod yr achosion wedi eu hadnabod mewn dau aderyn a fu farw y tu mewn i ffiniau Gwarchodfa RSPB Ynys-hir ym Machynlleth.
Adar gwyllt yw'r rhai sydd wedi eu heffeithio, a dywed yr asiantaeth nad oes unrhyw achosion mewn dofednod yn yr ardal wedi eu adnabod hyd yma.
Mae staff Diogelu'r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion wedi cysylltu â ffermydd cyfagos i roi cyngor a chanllawiau iddynt.
Roedd gwarchodfa RSPB Ynys-hir ar gau ddydd Iau o ganlyniad i'r achosion.
Mae Cymru gyfan dan gyfyngiadau rhai mesurau penodol yn unol â'r Parth Atal Ffliw Adar.
Daeth y cyhoeddiad ddechrau mis Tachwedd wedi i achosion o'r Ffliw Adar gael eu hadnabod mewn adar gwyllt a dofednod.
Mae'r mesurau yn y Parth Atal yn cynnwys rhoi bwyd a dŵr i adar mewn ardaloedd caeedig a chamau eraill i sicrhau nad yw adar gwyllt yn cael eu denu.