Clwb nos yn ymddiheuro am godi tâl am gaeadau gwrth-sbeicio

Mae un o glybiau nos mwyaf poblogaidd Caerdydd wedi ymddiheuro am godi tâl o 20c ar gwsmeriaid am gaeadau gwrth-sbeicio.
Dywedodd clwb nos Pryzm wrth Wales Online mai camgymeriad oedd gofyn am arian am y caeadau gwrth-sbeicio ar gyfer gwydrau diodydd.
Mae nifer o adroddiadau wedi bod am ddiodydd yn cael eu sbeicio dros y misoedd diwethaf yng Nghymru ac ar hyd y DU.
Cafwyd boicot o glybiau nos yn ddiweddar mewn ymdrech i wella diogelwch menywod ac mewn protest yn erbyn yr achosion o sbeicio.
Dywedodd Pryzm wrth Wales Online eu bod nawr yn darparu caeadau am ddim i gwsmeriaid.
Darllenwch y stori'n llawn yma.