Newyddion S4C

Arestio menyw yn dilyn marwolaeth bachgen wedi ymosodiad gan gi

10/11/2021
x

Mae menyw wedi’i harestio yn dilyn ymosodiad gan gi lle bu farw bachgen 10 oed.

Cafodd y fenyw 28 oed ei harestio ar amheuaeth o fod yng ngofal ci peryglus oedd  allan o reolaeth gan achosi anaf a arweiniodd at farwolaeth.

Cafodd yr heddlu eu galw i gyfeiriad ym Mhentwyn, Penyrheol, Caerffili, tua 15:50 ddydd Llun, 8 Tachwedd yn dilyn adroddiadau o ymosodiad gan gi.

Bu farw Jack Lis, 10 oed, yn y fan a’r lle.

Mae'r fenyw wedi ei rhyddhau ar fechnïaeth.

Dywedodd Heddlu Gwent bod dau ddyn, un 34 oed o ardal Aberpennar ac un 19 oed o ardal Caerffili, wedi mynd i gyfweliad gwirfoddol "mewn perthynas â throsedd o fod yn gyfrifol am gi allan o reolaeth a pheryglus gan achosi anaf a arweiniodd at farwolaeth".

Mae'r ddau ddyn wedi eu rhyddhau.

Dywedodd Mark Hobrough, Prif Uwch-arolygydd gyda Heddlu Gwent: “Wrth i’n hymchwiliad fynd rhagddo, byddwn yn tynnu ein gwarchodwyr safle trosedd o’r ardal ac mae’r gwaith o adnabod brid y ci yn mynd rhagddo hefyd.

“Gan ein bod wedi arestio unigolyn ar amheuaeth o drosedd cysylltiedig â’r ymosodiad, ac wedi siarad â dau arall yn wirfoddol, rydym yn ceisio canfod unrhyw faterion troseddol posibl."

Mae Heddlu Gwent wedi gofyn i bobl fod yn ofalus wrth wneud sylwadau ar yr achos ar y cyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd Prif Uwch-arolygydd Heddlu Gwent, Mark Hobrough: “Rwyf yn deall bod yr ymchwiliad hwn o ddiddordeb mawr i bobl yn ein cymunedau.

“Mae’n hollbwysig bod pobl yn ystyried tôn ac iaith unrhyw sylw ar gyfryngau cymdeithasol ynglŷn ag unrhyw un sy’n rhan o’n hymholiadau," ychwanegodd.

“Gan fod hwn yn ymchwiliad byw gallai sylwadau o’r fath effeithio ar ein gallu i ddwyn unrhyw un sy’n cael ei ganfod i fod wedi cyflawni trosedd gerbron y llysoedd.”

Mae swyddogion yn apelio am wybodaeth gan y cyhoedd gan ofyn i bobl all fod o gymorth i ffonio 101 a dyfynnu'r cyfeirnod 2100392510.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.