Pysgota masnachol mewn peryg o ‘ddiflannu’n llwyr’
Gallai pysgota masnachol ‘’ ddiflannu’n llwyr’’ yng nghymru oni bai bod camau yn cael eu cymryd i ddiogelu’r diwydiant medd yr AS Cefin Campbell.
Mae llefarydd materion gwledig ac amaethyddiaeth Plaid Cymru yn dweud bod nifer y pysgod sy’n cael eu dal a’u docio wedi gostwng yn sylweddol dros y degawd diwethaf.
Bydd y blaid yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno strategaeth newydd i gefnogi’r diwydiant pysgota mewn dadl yn y Senedd ddydd Mercher.
Dywedodd Cefin Campbell:’’Mae nifer o gyfleoedd wedi’u colli dros y deng mlynedd diwethaf i ddarparu trefn polisi pysgodfeydd gwell i Gymru.
“Mae angen diweddaru strategaethau sydd wedi dyddio os ydym am ddiogelu ein sector pysgodfeydd yn y dyfodol, gan eu galluogi i gyfrannu at economi Cymru, a chwarae eu rhan yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd.’’
Darllenwch y stori’n llawn gan Golwg360 yma.