Teyrnged mam i'w mab 'annwyl' fu farw wedi ymosodiad gan gi

09/11/2021

Teyrnged mam i'w mab 'annwyl' fu farw wedi ymosodiad gan gi

Mae mam y bachgen 10 oed sydd wedi marw yn dilyn ymosodiad gan gi yn Sir Caerffili wedi rhannu teyrnged i'w mab.

Bu farw Jack Lis ddydd Llun 8 Tachwedd.

Cafodd yr heddlu eu galw i gyfeiriad ym Mhentwyn, Penyrheol, yng Nghaerffili am tua 15:55 lle bu farw'r bachgen yn y fan a'r lle.

Mae'r heddlu wedi cadarnhau na ddigwyddodd yr ymosodiad yng nghartref Jack Lis, ond mewn tŷ arall ar stryd gyfagos.

'Ein bachgen annwyl, annwyl'

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd ei fam Emma Whitfield eu bod wedi colli "bachgen hardd."

Dywedodd: "Gyda chalon drom a chyn i ffrindiau a theulu agos weld ei enw yn y newddion, mae'n rhaid i mi gyhoeddi bod ein bachgen hardd Jack wedi ei gymryd oddi wrthom mewn ffordd mor drychinebus ddoe.

"Nid ein ci ni oedd e ac ni ddigwyddodd [yr ymosodiad] yn ein cartref teuluol," ychwanegodd.

"Roedd e [Jack] allan yn chwarae. Ry'n ni angen i'r amau stopio.

"Ry'n ni'n dy garu gymaint ein bachgen annwyl, annwyl," dywedodd.

Image
x
Swyddogion arbenigol yn cyrraedd y cyfeiriad lle bu farw Jack Lis. 

Dywedodd Prif Uwch-arolygydd Mark Hobrough o Heddlu Gwent: “Estynnaf fy nghydymdeimlad i deulu Jack, ei ffrindiau, ffrindiau ysgol a phawb yn y gymuned sydd wedi cael eu heffeithio gan y digwyddiad hwn.

“Gallwn gadarnhau na ddigwyddodd yr ymosodiad yn nhŷ teulu Jack, ond mewn eiddo arall mewn stryd gyfagos," ychwanegodd.

Aeth swyddogion arfog a pharafeddygon o Wasanaeth Ambiwlans Cymru i leoliad y digwyddiad, ond roedd y bachgen wedi marw yn y fan a’r lle. 

Cafodd y ci ei ddifa gan swyddogion arfog yr heddlu ac nid oedd unrhyw anifeiliaid eraill yn rhan o'r ymosodiad.

Wrth siarad gyda Newyddion S4C, dywedodd yr Uwch-arolygydd Carl Williams o Heddlu Gwent: "Mi fyddwn ni'n holi pawb sydd ynghlwm â'r digwyddiad, yn amlwg perchennog y ci hefyd."

'Cymuned wedi'i hysgwyd'

Mae cynghorydd yn Sir Caerffili wedi disgrifio'r digwyddiad fel un o'r “trychinebau gwaethaf” i’r ardal ei gweld. 

Dywedodd y Cynghorydd Lindsay Whittle fod y gymuned leol wedi’i “hysgwyd”. 

Mae’r Cynghorydd Whittle wedi cynrychioli’r ward ers 45 o flynyddoedd, ac mae’n gadeirydd llywodraethwyr yr ysgol leol lle'r oedd y bachgen yn ddisgybl.

“Mae’r gymuned wedi ei hysgwyd – chi’n clywed am y pethau yma ond dy' chi byth yn meddwl y bydde fe’n digwydd yn eich cymuned chi.

“Ry' ni wedi gweld trychinebau ar yr ystâd o’r blaen, ond mae gen i ofn fod hon yn un o’r gwaethaf i ni ei gweld.

“Mi roedd yna lawer o ddagrau dros nos, a bydd mwy i ddod dwi’n siŵr.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Whittle ei fod wedi gofyn am gymorth ychwanegol ac arbenigol i weithwyr ysgol y bachgen, a bod y mesurau yna bellach yn eu lle. 

Image
x
Tusw o flodau tu allan i'r cyfeiriad ym Mhentwyn, Caerffili lle mae heddlu'n parhau â'u hymchwiliad.

Ychwanegodd y Prif Uwch-arolygydd Mark Hobrough o Heddlu Gwent: “Bydd swyddogion yn gwneud ymholiadau pellach ac yn aros yn yr ardal wrth i’r ymchwiliad barhau.

“Mae’n bosib y byddwch yn gweld gweithgaredd yr heddlu yng Nghaerffili fel rhan o’r gwaith hwn. Efallai eich bod hefyd wedi gweld mwy o bresenoldeb yn gynharach heddiw tra roedd swyddogion yn mynychu'r digwyddiad, ond peidiwch â dychryn."

Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth i gysylltu drwy ffonio 101 gan ddyfynnu cyfeirnod log 2100392510 neu anfon neges uniongyrchol ar Facebook neu Twitter.

Mae modd hefyd gysylltu â Taclo'r Tacle yn ddienw trwy ffonio 0800 555 111 medd y llu.

Lluniau: rhaglen Newyddion S4C

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.