Newyddion S4C

Disgyblion yn beirniadu problemau technegol arholiad mynediad i brifysgolion

09/11/2021

Disgyblion yn beirniadu problemau technegol arholiad mynediad i brifysgolion

Mae rhai disgyblion yng Nghymru sydd am astudio meddygaeth wedi beirniadu cyfathrebu “gwarthus” cwmni arholi wedi problemau technegol diweddar yn ystod arholiad mynediad i brifysgolion. 

Arholiad sy’n cael ei ddefnyddio gan rhai o brifysgolion amlycaf y DU fel Rhydychen a Chaergawnt yw'r BioMedical Admissions Test (BMAT). 

Rhaid i ddisgyblion sicrhau sgor uchel yn yr arholiad i gael cyfle y cyfle i astudio graddau meddygol yn y prifysgolion. 

Ond mae rhai wedi beirniadu’r cwmni sy’n trefnu’r BMAT, Cambridge Assessment Admission Testing (CAAT), am ddiffyg cyfathrebu dros y problemau ar ôl i’r system dechnegol fethu gweithio yng nghanol yr arholiad mewn rhai ysgolion. 

Mae CAAT wedi ymddiheuro am y pryder a achoswyd gan y problemau ac wedi dweud y bydd modd gwneud cais i ail-eistedd yr arholiad neu i dderbyn “ystyriaeth arbennig.”

‘Hunllef’

Fe wnaeth Manon Clarke o Ysgol Gymraeg Plasmawr yng Nghaerdydd sefyll yr arholiad BMAT ddechrau mis Tachwedd. 

Disgrifiodd y profiad fel “hunllef” a dywedodd nad oedd ymateb CAAT ar y diwrnod yn ddigonol. Dywedodd wrth Newyddion S4C:

“Am tua 09:05 fe wnaeth yr holl beth jyst crasho a daeth eicon ymlaen yn dweud ‘Your Connection to the server has been lost, try your keycode again',” meddai. 

“Am dros awr a hanner roedd rhaid i fi a fy ffrind gael ein cadw o dan amodau arholiad achos eto doedd dim cyfathrebu o CAAT i’r ysgol”.

Image
Manon Clarke
Mae Manon Clarke yn gobeithio astudio meddygaeth yn Rhydychen

“Oedd lot o bobl yn dibynnu arnyn nhw ac oedd crisis management nhw jyst yn warthus.

“Oedd dim byd o ran cyfathrebu gydag ysgolion, doedd dim datganiad swyddogol”.

Llwyddodd Manon i gwblhau’r arholiad wrth iddi ei ail-ddechrau bron i ddwy awr ar ôl i’r problemau technegol gychwyn.

Er hyn, dywedodd ei bod yn ansicr os oedd ei holl atebion wedi’u cofnodi ac roedd yn amau safon ei gwaith. 

Mae’r sefyllfa wedi achosi pryder mawr iddi am ei chais i astudio meddygaeth yn Rhydychen, lle mae’r BMAT yn rhan ganolog o’r broses mynediad – yn enwedig yn dilyn effaith y pandemig ar ganlyniadau arholiadau ysgol.

“Eleni o’ nhw’n rhoi mwy o bwyslais ar y BMAT oherwydd dydy nhw methu ymddiried yn y canlyniadau arholiad yn yr un ffordd oedden nhw flynyddoedd cynt,” dywedodd. 

“Felly o’ nhw’n dibynnu ar y BMAT mwy eleni, felly oedd o’n rili bwysig.”

Image
Prifysgol Caergrawnt
 Prifysgol Caergrawnt sy'n trefnu arholiad y BMAT - ond mae'n cael ei ddefnyddio gan brifysgolion megis Rhydychen, UCL ac Imperial hefyd

Mewn datganiad i Newyddion S4C, dywedodd llefarydd o Cambridge University Press and Assessment ar ran CAAT: 

“Fe wnaeth mwyafrif o ymgeiswyr y BMAT llwyddo i sefyll yr arholiad wythnos diwethaf heb unrhyw broblemau.

“Er hyn rydym yn sylweddoli nad oedd hyn yn wir am brofiad pawb ac rydym yn ymddiheuro am yr anhwylustod a phryder achoswyd gan y sialensiau technegol wynebodd rhai o'r disgyblion a staff wrth gysylltu gyda chymorth technegol.

“Lle'r oedd modd i ddisgyblion gyflawni’r prawf, ond lle cafwyd anawsterau technegol, rydym yn ystyried ceisiadau am ystyriaeth arbennig.

“Lle nad oedd modd i ddisgyblion i ddechrau neu gyflawni’r prawf, rydym wedi trefnu cyfle arall i eistedd yr arholiad.”

Mae Ysgol Gymraeg Plasmawr am wneud cais ar gyfer ystyriaeth arbennig i’w disgyblion oedd wedi eu heffeithio. 

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cydweithio gyda CAAT i geisio sicrhau tegwch i ddisgyblion o Gymru.  

Image
Ysgol Gymraeg Plasmawr
Ysgol Gymraeg Plasmawr yw un o'r ysgolion yng Nghymru gafodd ei heffeithio gan y problemau diweddar

 

Mewn datganiad dywedodd llefarydd: “Rydym yn gweithio’n agos gyda’r Cambridge Assessment Centre i ddarganfod beth aeth o'i le a beth fyddai’n digwydd i leddfu unrhyw anfantais i ddysgwyr. 

“Rydym yn chwilio am gadarnhad na fydd unrhyw ddysgwr o Gymru o dan anfantais oherwydd y problemau technegol.”

Serch hyn, mae Manon yn dal i bryderu bod ei chais nawr wedi’i ddifetha oherwydd problemau technegol allan o’i rheolaeth:

“Y peth sydd wedi siomi fi mwyaf yw roedd y BMAT i fod yn cyfle i alli dweud y gwahaniaeth rhwng disgyblion, heb effaith yr holl tiwtora sy’n mynd ‘mlaen yn y cefndir,” meddai. 

“Dyw e jyst ddim yn teimlo fel na bellach…mae jyst yn teimlo fel siom mawr oherwydd dyw e ddim bellach yn teimlo fel level playing field.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.