
Pryderon am gynlluniau i weddnewid safle gwesty yn ardal Caernarfon

Pryderon am gynlluniau i weddnewid safle gwesty yn ardal Caernarfon
Mae yna bryderon yn lleol am gynlluniau i weddnewid safle un o westai mwyaf adnabyddus ardal Caernarfon.
Mae gwesty Seiont Manor ar gau ers bron i ddwy flynedd ar ôl mynd i ddwylo'r gweinyddwyr.
Ond mae'r perchnogion newydd yn bwriadu ehangu'r adeiladau presennol a chodi cabannau gwyliau ar y safle.
Mae’r cynlluniau yn cynnig adeiladu 31 o ystafelloedd newydd, i ddal cyfanswm o 60 o westeion.
Fe fyddai’r sba, bwyty a’r bar yn cael eu hymestyn.
Y tu allan, fe fyddai yna gwrt tennis a llwybrau cerdded newydd yn cael eu datblygu.
Byddai hefyd llety newydd i staff a 39 o gabanau gwyliau.

'Ffordd mor gul'
Ond mae yna rai amheuon am y cynlluniau yn yr ardal.
Dywedoddd y Cynghorydd Berwyn Parry Jones wrth raglen Newyddion S4C: "Da' chi 'di gweld y ffordd lawr fama yn dod mor gul ydi.
"Os oes gynno ni 39 carafanau a gwesty efo 61 o loffti, 'na chi 100 o geir swn i'n tybio sy'n mynd i fynd nôl a blaen pob dydd a 'da chi'n gweld mor brysur ydi'r lôn.
"A sut maen nhw'n mynd i basio ei gilydd ar y ffordd hynny hefyd yn broblem."
Mae’r cynlluniau sydd wedi eu cyflwyno i Gyngor Gwynedd hefyd yn sôn am ystafell biomass ac ardal gweithgareddau awyr agored, derbynfa a siop.
Dywedodd Dafydd Whiteside Thomas, sy'n byw'n lleol: "O fewn llai na dwy filltir i'r safle mae 'na dros ddwsin o safleoedd sydd yn cynnwys cabanau gwyliau, carafanau statig, llefydd i aros, glampio."
Yn ôl y datblygwyr, Caernarfon Properties Ltd, roedd y gwesty’n gwneud colledion am flynyddoedd cyn iddo gau.
Maen nhw'n dweud y byddai’r gwellianau sydd ganddyn nhw mewn golwg yn datrys rhai o’r problemau gan greu canolfan newydd i gynadleddau, digwyddiadau yn ogystal â hamddena.
Mae nhw hefyd yn dweud y bydden nhw’n creu 150 o swyddi yn ystod y gwaith ailddatblygu ac yn cyfrannu dros £22,000,000 i’r economi leol.
Mae disgwyl i adran gynllunio Cyngor Gwynedd ystyried y cais dros y misoedd nesaf.