
Cyhoeddi cast I’m a Celebrity 2021

Mae cast rhaglen I’m a Celebrity Get Me Out of Here wedi ei gyhoeddi’n llawn yn ôl The Sun.
Bydd y 12 cystadleuydd yn wynebu nosweithiau oer yng Nghastell Gwrych yn Sir Conwy wrth i’r sioe fethu â theithio i’w lleoliad arferol yn Awstralia am yr ail flwyddyn yn olynol.
Bydd y rhaglen realiti yn dychwelyd i’r sgrîn fach nos Sul 21 Tachwedd.
Ymhlith rhai o’r sêr fydd yn cystadlu mae Adam Woodyatt, sydd yn cael ei adnabod orau fel yr actor sy’n portreadu Ian Beale yng nghyfres Eastenders.

Mae ambell i seren arall y byd ‘soaps’ yn ymddangos hefyd, fel Simon Gregson sy’n actio Steve McDonald yn Coronation Street, a Danny Miller sydd wedi bod yn portreadu Aaron Dingle yn Emmerdale ers 2008.
Bydd dau wyneb cyfarwydd o’r byd darlledu yn ymddangos eleni, gan gynnwys Richard Madeley o raglen Good Morning Britain, a Louise Minchin, cyn-gyflwynydd BBC Breakfast.
O’r byd chwaraeon, bydd y pêl-droediwr Ffrenig David Ginola yn ymddangos, yn ogystal ag enillydd medal paralymaidd, Kadeena Cox, a’r deifiwr Matty Lee.
Bydd Naughty Boy, Frankie Bridge, Snoochie Shy, a DJ Locksmith yno yn cynrychioli’r diwydiant cerddoriaeth, ac mae Arlene Philips, cyn feirniad rhaglen Strictly Come Dancing hefyd ar y rhestr.
Darllenwch y stori’n llawn yma.
Llun: ITV