
COP26: Lleisiau'r Cymry ymysg y miloedd fu'n gorymdeithio yn Glasgow

COP26: Lleisiau'r Cymry ymysg y miloedd fu'n gorymdeithio yn Glasgow
Mae miloedd o bobl ifanc wedi bod yn gorymdeithio dros newid hinsawdd yn Glasgow ddydd Gwener.
Daw'r orymdaith yn ystod uwchgynhadledd COP26 sydd wedi ei threfnu gan y Cenhedloedd Unedig.
Mae'r ymgyrchwyr ifanc Greta Thunberg a Vanessa Nakate ymhlith y sawl sydd wedi bod yn annerch y dorf.
Ymhlith y bobl ifanc sydd wedi teithio i Glasgow i ymuno yn yr orymdaith, mae Rebecca Files a Mirain Dafydd o Gymru.

Dywedodd Rebecca wrth raglen Newyddion S4C bod protestio "yn bendant yn gwneud gwahaniaeth".
Dywedodd: "Rydyn ni gyd bendant yn pryderu ac yn becso am newid hinsawdd a chynhesu byd eang gan daw dyfodol ni sy' yn y fantol.
"Mae e wrth gwrs yn bwysig. Fi'n credu bod protestio bendant yn neud gwahaniaeth, a fi bendant yn rhannu rhwystredigaeth Greta Thunberg a sawl person ifanc arall ar draws y byd i gyd," ychwanegodd Rebecca.
Bu tua 120 o arweinwyr y byd yn Glasgow ddechrau'r wythnos i drafod a phenderfynu ar sut i fynd i'r afael â newid hinsawdd dros y degawdau nesaf.
Rhai o'r pethau sydd eisoes wedi eu penderfynu yw:
- y bydd tua 40 o wledydd yn gweithio i stopio buddsoddi mewn pwer glo newydd
- bod mwy na 100 o wledydd wedi addo rhoi diwedd ar ddatgoedwigo erbyn diwedd 2030.
- bod 100 o wledydd wedi addo i dorri allyriadau nwy methan gan 30% erbyn 2030.
Ond mae ambell berson ifanc, fel Rebecca a Mirain yn cwestiynnu faint o wahaniaeth y mae COP26 yn mynd i wneud.
Dywedodd Rebecca: "Hoffwn i fod yn fwy gobeithiol ond ni 'di gweld lluniau o Boris Johnson a Joe Biden yn cysgu, dyw llywydd China ddim hyd yn oed yn bresennol.
"Felly faint o wahaniaeth ydy e'n gallu gneud? Ydy e'n fwy o berfformiad?

Ychwanegodd Mirain Dafydd: "Allen ni ishte lawr a trafod trwy'r adeg ac mae hwnna'n iawn, ond sai'n credu eiff e ddim i nunlle heblaw bod pobl yn codi eu lleisiau a dangos faint o broblem yw hyn.
"Fi'n credu mae [COP26] yn fwy o propaganda yn fwy na actually newid pethau," dywedodd.
"Dwi wir yn meddwl bydd 'na obaith llwyr. S'dim ots pwy yw'r bobl fawr 'ma'r byd, fi'n credu'r bobl ei hun sy' angen newid er mwyn cael gobeithio bywyd gwell erbyn 'ny yn y dyfodol."
Un o brif dargedau COP26 yw bod gwledydd y byd yn ymrwymo i gadw tymheredd cynhesu byd eang o dan 1.5°c.
Dywedodd Rebecca bod angen i arweinwyr fod "yn fwy uchelgeisiol."
Ychwanegodd: "Be licsen i weld yw bod y targed o 1.5°C yn cael ei gyrraedd.
"A fi ishe gweld yr arweinwyr yn bod yn uchelgeisiol, ond hefyd yn cyrraedd y targedau," dywedodd.
"Felly ar ôl gweud hynny fi ddim yn meddwl bod fi mor obeithiol â 'na.