Cynllun i ailddatblygu hen 'Bentref Pwylaidd' Pen Llŷn

Mae datblygwyr wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer dyfodol pentref hanesyddol ym Mhen Llŷn oedd yn gartref i gyn-filwyr Pwylaidd a'u teuluoedd ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd.
Cafodd Pentref Pwylaidd Penrhos ei greu yn 1949 gan gymdeithas dai Pwylaidd er lles y cyn-filwyr oedd wedi parhau yn y DU ar ôl i'r rhyfel ddod i ben.
Roedd yn gartref i ddegau o deuluoedd o'r wlad dros y blynyddoedd, cyn i'r unig adeilad oedd yn parhau ar agor ar y safle gau ei ddrysau am y tro olaf yn 2020.
Gobaith Cymdeithas Dai ClwydAlun yw datblygu 112 o unedau ar y safle ar ôl dymchwel yr adeiladau sydd yn weddill.
Darllenwch y stori'n llawn gan North Wales Live yma.
Llun: Google