Twf mewn pris papur yn effeithio ar argraffwyr a chyhoeddwyr Cymru

Mae oedi mewn cyflenwadau a thwf mewn prisiau papur yn achosi problemau i argraffwyr a chyhoeddwyr yng Nghymru.
Mae’n debyg mai sgil effaith Brexit a’r pandemig sy’n gyfrifol am y costau cynyddol ac oedi sylweddol yn yr amser dosbarthu sy’n wynebu'r diwydiant.
Bydd y costau cynyddol yn effeithio cwsmeriaid, yn ôl rhai cwmnïau argraffu.
Wrth siarad gya Nation.Cymru, dywedodd Jonathan Lewis, cyfarwyddwr Gwasg Gomer, cwmni argraffu sy’n arwain y diwydiant yn Llandysul: “Bu’n rhaid i ni gynyddu prisiau i gwsmeriaid.
“Nid oes unrhyw ffordd y gallem amsugno’r codiadau digynsail hyn mewn deunyddiau. Nid yn unig y mae prisiau papur wedi codi ond pob nwyddau traul hefyd, gan gynnwys inc.”
Mae Y Lolfa, cwmni argraffu a chyhoeddi yn Nhalybont, yn hyderus y bydd yn cwrdd â galw'r Nadolig ond bod papur yn cymryd mwy o amser na'r arfer i gyrraedd.
“Mae rhai mathau o bapur a cherdyn bellach yn amhosib eu prynu. Mae’r papur lliw hufen, rydyn ni’n ei ddefnyddio ar gyfer nofelau, a arferai gymryd mis i gyrraedd, bellach yn cymryd deg wythnos.”
Mae rheolwyr y diwydiant papur wedi cynghori y dylai cwmnïau argraffu archebu papur fisoedd ymlaen llaw er mwyn osgoi diffygion.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Google