Clwb Pêl-droed Wrecsam yn gwahardd 12 cefnogwr ar ôl trafferth yn ystod gêm

Mae Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi gwahardd 12 unigolyn yn dilyn trafferth yn ystod y gêm yn erbyn Torquay United dydd Sadwrn.
Mae'r clwb hefyd wedi dirymu eu tocynnau tymor wrth i ymchwiliad gan yr heddlu barhau.
Yn ôl Nation.Cymru, dywedodd Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Unedig Torquay ei bod wedi “derbyn adroddiadau am ddarnau arian, poteli plastig a gwydr, taniwr a choffi yn cael eu taflu at gefnogwyr Torquay”.
Mewn datganiad dywedodd Clwb Pêl-droed Wrecsam: “Ni allwn ond ailadrodd nad yw’r unigolion hyn yn ein cynrychioli ni na’n gwerthoedd, ac nad oes croeso iddynt yn ein clwb pêl-droed.”
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am dystion sydd ag unrhyw wybodaeth am y digwyddiadau ar ddydd y gêm.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Clwb Pêl-dreod Wrecsam