Newyddion S4C

Marwolaeth Parc Biwt: Tri yn pledio’n ddieuog i lofruddiaeth

Golwg 360 02/11/2021
Dr Gary Jenkins

Mae tri o bobl wedi gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn mewn parc yng Nghaerdydd yn ystod yr haf.

Bu farw Dr Gary Jenkins, 54 a oedd yn dad i ddau, yn dilyn ymosodiad ym Mharc Biwt yn ystod oriau man 20 Gorffennaf.

Yn ôl Golwg360, ymddangosodd Jason Edwards, 25, a Lee William Strickland, 36, o Gaerdydd, a merch 16 oed, na ellir cyhoeddi ei henw am resymau cyfreithiol, gerbron Llys y Goron Casnewydd ddydd Mawrth.

Fe wnaeth y tri bledio’n ddieuog i gyhuddiad o lofruddio, dynladdiad a dwyn.

Darllenwch ragor yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.