Rhybudd melyn am wyntoedd cryfion yng Nghymru
Mae rhybudd melyn yn ei le ar gyfer gwyntoedd cryfion i rannau o Gymru dydd Sul.
Bydd rhybudd y Swyddfa Dywydd mewn grym rhwng 12:00 dydd Sul tan 23:00 nos Sul.
Fe all y gwyntoedd achosi oedi teithio, ac mae colli pŵer am gyfnodau byr yn bosib.
Mae gwyntoedd yn debyg o gyrraedd hyd at 70 m.y.a. mewn rhannau agored.
⚠️Dau rybudd melyn:
— S4C Tywydd (@S4Ctywydd) October 31, 2021
Gwyntoedd cryfion ger glannau'r gorllewin a'r de tan 23.00 heno
- Hyrddio 50 i 60 mya i nifer
- hyd 70mya mewn mannau agored
- 40 i 50mya mewn ardaloedd mewndirol
Glaw trwm ar draws y gogledd tan 06.00 bore 'fory pic.twitter.com/DrSAjZYff6
Y siroedd sy’n wynebu’r rhybudd yw Abertawe, Bro Morgannwg, Castell-nedd Port Talbot, Caerdydd, Ceredigion, Conwy, Gwynedd, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Ynys Môn.