
Tri wedi marw yn dilyn digwyddiad ar Afon Cleddau
Tri wedi marw yn dilyn digwyddiad ar Afon Cleddau
Mae tri o bobl wedi marw ac un person yn parhau yn yr ysbyty yn dilyn digwyddiad mewn afon yn Sir Benfro.
Bu farw dwy ddynes a dyn yn y fan a’r lle, ac mae dynes yn parhau i fod mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.
Derbyniodd Heddlu Dyfed-Powys adroddiadau am bobl mewn trafferth ar Afon Cleddau yn Hwlffordd ychydig ar ôl 09:00 ddydd Sadwrn.
Roedd grŵp o naw o dde Cymru wedi teithio i Sir Benfro ar gyfer gwibdaith padl-fyrddio.
Cafodd pump o bobl eraill eu hachub heb anaf. Credir hefyd bod aelod o'r cyhoedd wedi mynd i mewn i'r dŵr i geisio achub, gan adael y dŵr yn ddiogel yn ddiweddarach.

Mew neges ar Twitter mae Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru wedi cydymdeimlo gyda'r teuluoedd sydd wedi'u heffeithio.
Trist iawn oedd clywed am y marwolaethau ar Afon Cleddau yn Hwlffordd.
— Mark Drakeford (@PrifWeinidog) October 31, 2021
Mae fy meddyliau gyda’r teuluoedd a’r ffrindiau sydd wedi colli anwyliaid yn dilyn y drasiedi dorcalonnus yma.
Diolch i’r gwasanaethau brys a phawb a geisiodd gynorthwyo gyda’r ymdrechion achub.
Mae'r gwasanaethau brys wedi cadarnhau bod ymchwiliad wedi dechrau i amgylchiadau'r digwyddiad.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Jonathan Rees fod ymchwiliad llawn eisoes ar y gweill, ond ar hyn o bryd mae ei feddyliau gydag anwyliaid y rhai a fu farw a’r ddynes sy’n cael triniaeth yn yr ysbyty.
Ymatebodd 30 o ddiffoddwyr tân o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, gan gynnwys criwiau rhydio arbenigol a thechnegwyr achub dŵr cyflym, i gynorthwyo gyda'r achub.
Defnyddiwyd dau gwch tân i gynorthwyo gyda chwiliadau glannau ac afonydd, gyda chriwiau'n gweithio'n agos gyda'r timau Gwylwyr y Glannau.
Cafwyd cefnogaeth hofrennydd gan NPAS, Gwylwyr y Glannau ac Ambiwlans Awyr Cymru, a bad achub Angl RNLI.
Ymatebodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru gyda sawl ambiwlans, gan fynd â'r fenyw a anafwyd i Ysbyty Llwynhelyg.
Mewn datganiad mae David Simpson, Arweinydd Cyngor Sir Benfro wedi diolch i'r gwasanaethua brys am eu gwaith.
“Roedd y canlyniad ddydd Sadwrn yn drasig, mae ein meddyliau gyda pawb oedd yn rhan o'r digwyddiad ac mae ein cydymdeimlad dwysaf yn mynd allan i deuluoedd a ffrindiau’r rhai sydd, yn anffodus, wedi colli eu bywydau.
“Mae hwn yn ymchwiliad parhaus dan arweiniad yr heddlu felly gofynnaf yn garedig ein bod yn caniatáu amser i’r heddlu gynnal eu hadolygiad.
“Rwyf am drosglwyddo fy niolch ddiffuant i bawb sy’n ymwneud â delio â’r digwyddiad hwn.”
Wrth siarad gyda Newyddion S4C, dywedodd Roy Thomas, cyn-faer Hwlffordd: "Does dim geiriau i ddisgrifio beth sydd wedi digwydd."
Mae Roy Thomas, cyn-faer Hwlffordd, yn cydymdeimlo gyda'r teuluoedd sydd wedi'u heffeithio gan y digwyddiad ar Afon Cleddau, fore dydd Sadwrn.https://t.co/N2GLHjnGJT pic.twitter.com/vgf0Ttihw5
— Newyddion S4C (@NewyddionS4C) October 31, 2021
Mae'r Crwner a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi cael gwybod am y digwyddiad, ac mae'r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Morol (MAIB) wedi anfon tîm o ymchwilwyr i'r lleoliad i gychwyn asesiad rhagarweiniol.
Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un a allai fod â gwybodaeth a allai gynorthwyo’r ymchwiliad i gysylltu trwy wefan: https://orlo.uk/HaverfordwestAppeal_naaDd