Rhybudd melyn am law trwm ddydd Sul

31/10/2021
Glaw

Mae rhybudd melyn yn ei le ar gyfer glaw trwm i rannau o Gymru dydd Sul.

Bydd rhybudd y Swyddfa Dywydd yn parhau tan 15:00 ddydd Sul.

Fe allai’r glaw achosi llifogydd mewn rhai cartrefi a busnesau, a gallai gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus gael eu heffeithio hefyd.

Mae'r rhybudd tywydd yn berthnasol i siroedd: Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Castell-nedd Port Talbot, Caerdydd, Casnewydd, Caerffili, Merthyr Tydfil, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf, Sir Gaerfyrddin, Sir Fynwy, Torfaen.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.