Arweinwyr y byd yn ymgynull yn Glasgow ar gyfer cynhadledd COP26
Bydd arweinwyr y byd yn ymgynull yn Glasgow ar gyfer uwchgynhadledd newid hinsawdd COP26 ddydd Sul.
Mae’r digwyddiad yn dod ag arweinwyr gwledydd y Cenhedloedd Unedig ynghyd i drafod sut mae sicrhau dyfodol gwyrddach i’r Byd.
Fe fydd Cynhadledd COP26 yn dechrau ddydd Sul ac yn parhau tan 12 Tachwedd, ac mae Boris Johnson a Mark Drakeford ymhlith y sawl fydd yn mynychu yn ystod y bythefnos.
Mae disgwyl i gynrychiolwyr o tua 200 o wledydd fod yn rhan o'r gynhadledd a chyhoeddi eu cynlluniau i helpu'r blaned.
Ond ni fydd Ei Mawrhydi'r Frenhines Elizabeth II yn mynychu’r digwyddiad yn dilyn cyngor meddygol i orffwys am bythefnos “o leiaf”.
Bwriad y gynhadledd fydd ceisio cyflymu’r gweithredu tuag at amcanion Cytundeb Hinsawdd Paris yn 2015.
Fel rhan o’r cytundeb, mae targed i sicrhau fod y cynnydd yn y tymheredd byd-eang yn cael ei gadw dipyn yn is na 2C o gymharu â lefelau cyn yr oes ddiwydiannol.
Roedd y cytundeb yn annog arweinwyr y byd i geisio mynd ymhellach a chyfyngu’r cynnydd yn y tymheredd i 1.5C, ac fe fydd cyflawni’r targed hwn yn un o brif heriau’r gynhadledd.
Wrth siarad gyda Newyddion S4C, dywedodd Elgar Haf, o Gyfeillion y Ddaear Cymru bydd "ariannu a chynorthwyo gwledydd fwyaf tlawd y byd i addasu i newid hinsawdd" yn cael sylw hefyd.
"Pwrpas y gynhadledd COP26 yng Nglasgow yw i wledydd y byd wneud ymrwymiadau i dorri allyriadau sydd yn gyson gyda pheidio mynd tu hwnt i 1.5 gradd."
— Newyddion S4C (@NewyddionS4C) October 31, 2021
Dechreuodd Cynhadledd COP26 ddydd Sul ac mae'n parhau tan 12 Tachwedd. pic.twitter.com/STD1bwqgGn
Cyn gadael am Glasgow, mae’r Prif Weinidog Boris Johnson wedi galw am “weithredu ar frys” i fynd i’r afael â newid hinsawdd.
Mae Mr Johnson yn gobeithio y bydd uwchgynhadledd COP26 yn gyfle i “adfer yn lanach ac ail-adeiladu’n wyrddach”.
Er na fydd yn rhan o’r trafodaethau ffurfiol, mae disgwyl y bydd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, hefyd yn bresennol yng Nglasgow.
Ar drothwy’r uwchgynhadledd fe lansiodd Llywodraeth Cymru gynllun ar sut maen nhw’n bwriadu gwireddu Cymru sero net erbyn 2050.
Wrth lansio’r cynllun hwnnw ddydd Iau, dywedodd Mr Drakeford “fod angen degawd o weithredu” er mwyn mynd i’r afael â newid hinsawdd.
Bydd modd dilyn y diweddaraf ar uwchgynhadledd COP26 ar wasanaeth Newyddion S4C.
Llun: Cynhadledd G20 drwy Flickr @Number10.