Un yn yr ysbyty ar ôl digwyddiad mewn afon yn Sir Benfro

30/10/2021

Un yn yr ysbyty ar ôl digwyddiad mewn afon yn Sir Benfro

Mae'r gwasanaethau brys wedi cadarnhau bod ymchwiliad wedi dechrau i amgylchiadau digwyddiad mewn afon yn Sir Benfro ddydd Sadwrn. 

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod wedi eu galw i Afon Cleddau yn nhref Hwlffordd yn dilyn adroddiadau o bobl "wedi mynd i drafferthion yn y dŵr".

Maen nhw bellach wedi cadarnhau fod y chwilio wedi dod i ben gyda phawb wedi eu cyfrif, ac nad oedden nhw mewn sefyllfa i ryddhau mwy o wybodaeth ar hyn o bryd.

Dywedodd y Gwasanaeth Ambiwlans fod un claf wedi ei drosglwyddo i Ysbyty Llwynhelig am driniaeth bellach.

Roedd yr heddlu wedi cau ardaloedd y ddwy ochr i Afon Cleddau ger Stryd y Cei am gyfnod ddydd Sadwrn ac wedi gofyn i bobl i osgoi'r ardal. 

Mae'r llu wedi cadarnhau fod y Gwasanaeth Tân ac Achub a Gwylwyr y Glannau wedi bod yn cynorthwyo gyda'r chwilio, yn ogystal â'r Gwasanaeth Ambiwlans.

Image
ambiwlans awyr
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am tua 9:00 fore Sadwrn. 

Mae Newyddion S4C hefyd ar ddeall fod dau ambiwlans awyr wedi glanio ger parc sglefr fyrddio Hwlffordd.

Mae'r Pembrokeshire Herald yn adrodd fod sawl unigolyn wedi mynd i drafferthion yn yr afon yn fuan fore Sadwrn tra'n padl-fyrddio ar ôl i gawodydd trwm effeithio ar amodau'r afon. 

Mae'r Aelod Seneddol ar gyfer etholaeth Preseli Penfro, Stephen Crabb AS, wedi disgrifio'r digwyddiad fel un "ofnadwy".

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys: "Mae'r gwaith chwilio ac achub aml-asiantaeth a ddigwyddodd yn Sir Benfro heddiw (dydd Sadwrn) wedi dod i ben heno.

"Cafodd yr heddlu, gwasanaeth tân, Gwylwyr y Glannau ac ambiwlans eu galw i Afon Cleddau yn Hwlffordd am tua 9:00 bore 'ma yn dilyn adroddiadau fod grŵp o bobl wedi mynd i drafferthion yn y dŵr.

"Cafodd chwiliad ei lansio yn gyflym, gyda 30 ymladdwr tân o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn gweithio ochr yn ochr â chriwiau Gwylwyr y Glannau a chefnogaeth hofrennydd.

"Dywedodd y Ditectif Uwch Arolygydd Jonathan Rees o Heddlu Dyfed-Powys nad oedd mewn sefyllfa i ryddhau mwy o wybodaeth ar yr adeg hon, ond fod pawb wedi eu cyfrif a'r chwilio wedi dod i ben.

"Dywedodd mai ar hyn o bryd ei flaenoriaeth oedd sicrhau fod pawb oedd yn rhan o'r digwyddiad, a'u teuluoedd, wedi eu hysbysu ac yn derbyn cefnogaeth addas.

"Dywedodd DCI Rees fod ymchwiliad eisoes wedi dechrau i amgylchiadau'r digwyddiad".

Fe ddiolchodd DCI Rees i'r cyhoedd am eu hamynedd tra bo'r ardal o amgylch y digwyddiad wedi ei gau, ac i'r gwasanaethau brys am eu cymorth.

Yn gynharach ddydd Sadwrn, dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Ambiwlans: "Cawsom ein galw am 9:16 bore 'ma i adroddiadau o ddigwyddiad wedi'i leoli ar ddŵr oedd yn cynnwys nifer o bobl ger Stryd y Cei, Hwlffordd.

"Gwnaethom ymateb gyda dau gerbyd ymateb cyflym, tri ambiwlans argyfwng a dwy uned o Ambiwlans Awyr Cymru.

"Erbyn 13:00 roedd un claf wedi ei drosglwyddo ar y ffyrdd i Ysbyty Llwynhelig am driniaeth bellach".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.