
Tîm rygbi Prifysgol Abertawe yn sefyll yn erbyn achosion o sbeicio

Tîm rygbi Prifysgol Abertawe yn sefyll yn erbyn achosion o sbeicio
Fe wnaeth tîm rygbi dynion Prifysgol Abertawe ganslo eu noson gymdeithasol i ddangos undod â ‘Big Night In’, sef ymgyrch i foicotio clybiau nos er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r achosion diweddar o sbeicio.
Dywedodd aelod o dîm rygbi Prifysgol Abertawe, Rhidian Fawkes-Williams: “Mae'n rili bwysig dangos solidariaeth gyda’r ymgyrch Big Night In, a dangos cefnogaeth i ddiogelwch menywod ar nosweithiau allan, oherwydd mae'n effeithio pawb.”
Yn ôl y tîm, nhw yw’r clwb dynion cyntaf i ddangos eu cefnogaeth i'r boicotiau yn Abertawe.
“Roeddem eisiau bod yn un o’r clybiau cyntaf i wneud rhywbeth amdano fe. Oherwydd, mae pawb yn nabod rhywun sydd wedi cael rhywbeth yn digywdd iddynt ac rydym eisiau newid hwnna. Ni eisiau bod pob merch yn teimlo’n ddiogel."

Yn ddiweddar, newidiodd yr ymgyrch ei henw o ‘Girls Night In’ i ‘Big Night In’ er mwyn bod yn fwy cynhwysol i bawb sydd wedi cael eu sbeicio neu'n teimlo’n anniogel ar nosweithiau allan.
“Mae'r stigma hwn o ‘toxic masculinity’ yn gysylltiedig â bechgyn rygbi, ond rydyn ni'n cefnogi'r achos hwn 100% ac rydym ni am wneud popeth o fewn ein gallu i wneud i bawb deimlo'n fwy diogel mewn clybiau," meddai Rhidian.
“Hyd yn oed gwneud rhywbeth bach, a rhoi rhywbeth ar eich cyfryngau cymdeithasol jysd am beth mae diod yn edrych fel os mae rhywun wedi sbeicio fe neu unrhywbeth i helpu tamaid bach mwy. Dwi'n credu bod e'n rili rili bwysig.”
Nid Abertawe yw'r unig ddinas sy'n boicotio clybiau nos a bariau yr wythnos hon.
Mae dinasoedd ledled y DU wedi ymuno mewn undod i godi ymwybyddiaeth o sbeicio ar nosweithiau allan, yn dilyn honiadau am ddulliau sbeicio chwistrellu newydd.
Dechreuodd yr ymgyrch ‘Big Night In’ ychydig wythnosau yn ôl ar Instagram, wrth i nifer o straeon am sbeicio ddominyddu'r cyfryngau cymdeithasol.
Dywedodd aelod arall o’r tîm, Gwyn Parks: “Rydym i gyd wedi ei roi ar ein Instagrams, mae'r cyfan wedi bod mewn sgyrsiau grŵp chat, hefyd rydym yno ar gyfer y merched.
“Rwy'n credu bod e’n allweddol pan ddechreuwn ni fynd yn ôl i mewn i glybiau nos ein bod yn cadw llygad allan a edrych allan am bawb.”

“Mae gennym ni lawer o ffrindiau, ac mae rhai wedi cael eu heffeithio gan sbeicio felly rydyn ni i gyd y tu ôl i’r achos, rydyn ni i gyd yn ei gefnogi", ychwanegodd Gwyn Parks.
“Gobeithio fod ein rhan fach yn gallu chwarae rhan fawr yn gyffredinol.”
Cynhaliwyd “Big Night In Swansea” ar ddydd Mercher, 27 Hydref, cafodd bariau a chlybiau nos ledled y ddinas eu boicotio.
Daw hyn ar ôl i Heddlu De Cymru dderbyn nifer cynyddol o adroddiadau am sbeicio yn ddiweddar.
Dywedodd Heddlu'r De: “Rydym yn ymwybodol o negeseuon sy'n cylchredeg ar gyfryngau cymdeithasol am ddigwyddiadau sbeicio sy'n cynnwys pigiadau.
“Mae gennym hanes rhagorol o weithio mewn partneriaeth yn Ne Cymru ac rydym yn darparu hyfforddiant i staff mewn safleoedd trwyddedig yng nghanol y ddinas i'w helpu i nodi a diogelu pobl sy'n agored i niwed.
“Yn ogystal, rydym yn gweithio gyda safleoedd trwyddedig i’w rhybuddio am ddulliau sbeicio yr adroddwyd amdanynt mewn rhannau eraill o’r DU ac yn gofyn iddynt fod yn ofalus iawn ar hyn o bryd.”
Maen nhw'n annog unrhyw un sy'n credu eu bod nhw wedi profi sbeicio ar unrhyw ffurf i gysylltu â nhw.