'Dwi ddim yn siarad Cymraeg - eto': Dau o sêr Hollywood yn ymweld â'u clwb pêl-droed newydd

Mae dau o sêr y byd ffilm wedi ymweld â'r Cae Ras yn Wrecsam am y tro cyntaf ddydd Iau, er mwyn cymryd golwg fanylach ar y clwb pêl-droed y maen nhw wedi ei brynu'n ddiweddar.
Fe ddisgrifiodd Ryan Reynolds a Rob McElhenney bwysigrwydd hanesyddol a chymdeithasol y clwb i'r dref wrth gynnal cynhadledd i'r wasg.
Dywedodd Reynolds mai "nid tegan" oedd y clwb gan fynnu y gallai gyrraedd entrychion y byd pêl-droed gan fod y strwythur yno'n barod:
"Dwi ddim yn deall pam na allwn ni gyrraedd yr Uwch Gynghrair. Mae gennym ni'r strwythur yma. Beth am freuddwydio'n fawr?"
Dechreuodd Rob McElhenney ganu'r anthem genedlaethol pan gafodd ei holi gan Elin Fflur ar gyfer rhaglen Heno, gan ddiolch iddi'n Gymraeg cyn dweud "dwi ddim yn siarad Cymraeg - eto!"
Ein @elinfflur ni yn gofyn cwestiwn i perchnogion newydd @Wrexham_AFC - @VancityReynolds a @RMcElhenney ⚽🏴#WxmAFC pic.twitter.com/rU9Snleufw
— Heno 🏴 (@HenoS4C) October 28, 2021