Gyrwyr bysiau Arriva Cymru yn cynnal streic pum wythnos

Bws Arriva
Mae gyrwyr bysiau Arriva Cymru wedi pleidleisio o blaid cynnal streic fydd yn para pum wythnos.
Bydd gyrwyr yng ngorsafoedd Amlwch, Bangor, Llandudno, Rhyl, Wrecsam a Phenarlâg yn streicio rhwng 14 Tachwedd a 19 Rhagfyr.
Fe wnaeth oddeutu 400 o yrwyr yng Nghymru gefnogi streicio oherwydd eu tâl, yn ôl undeb Unite.
Dywed yr undeb fod cynnydd o 1.77% i gyflogau “ymhell o dan lefelau chwyddiant”, tra bod Arriva Wales yn mynnu fod y cynnig yn “deg a chystadleuol”.
Darllenwch y stori’n llawn yma.