Newyddion S4C

Y Gyllideb: '£2.5bn yn ychwanegol' i goffrau Llywodraeth Cymru

27/10/2021
Rishi Sunak - Llun Trysorlys

Mae'r Canghellor Rishi Sunak yn amlinellu'r arian fydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ei wario yn araith y Gyllideb yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Mercher.

Cyhoeddodd y byddai £2.5bn yn ychwanegol yn mynd i goffrau cyllid blynyddol Llywodraeth Cymru drwy Fformiwla Barnett.

Fel rhan o adolygiad gwariant y llywodraeth, mae disgwyl y bydd mwy o gefnogaeth ariannol i fusnesau bach a chynnydd yn y Cyflog Byw Gwladol.

Mae adolygiadau gwariant fel arfer yn amlinellu sut fydd arian yn cael ei wario gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig dros gyfnod o rhyw dair blynedd, er bu adolygiad yn 2020 dros gyfnod o flwyddyn yn unig oherwydd effeithiau pandemig Covid-19.

Fe fydd adolygiad gwariant 2021 yn gosod cynlluniau gwariant y llywodraeth am y cyfnod rhwng 2022-2023 a 2024-2025.

Image
Rishi Sunak - Llun Harriet Pavey
Bydd Rishi Sunak yn amlinellu ei ail adolygiad gwariant fel Canghellor ddydd Mercher.
Llun: Harriet Pavey/Rhif 10

Dyma fydd ail adolygiad gwariant Mr Sunak ers iddo ddechrau yn ei swydd.

Fe fydd y Canghellor hefyd yn cyhoeddi ei drydedd Gyllideb ers iddo ddechrau yn ei rôl, a'r ail eleni.

Fe fydd Mr Sunak yn gobeithio amlinellu ei weledigaeth ar gyfer adferiad economaidd y wlad wrth i effeithiau'r pandemig barhau.

Mae nifer o fesurau tymor byr wedi eu cyflwyno dros y 18 mis diwethaf i ymateb i heriau ariannol y pandemig.

Daeth y cynllun ffyrlo a gafodd ei gyflwyno fel mesur i arbed swyddi i ben ddiwedd mis Medi.

Beth sydd i'w ddisgwyl?

Mae eisoes sôn y bydd y Canghellor yn cyhoeddi arian i gefnogi busnesau bach a chanolig yng Nghymru.

Bydd y gronfa o £130 miliwn yn cael ei dosbarthu drwy'r Banc Busnes Prydeinig, ond mae Ffederasiwn y Busnesau Bach (FSB) eisoes wedi dweud nad yw'r buddsoddiad hwn yn ddigon ar ei ben ei hun.

Mae disgwyl hefyd y bydd y Cyflog Byw Gwladol yn cynyddu o £8.91 i £9.50 yr awr - cynnydd o tua £1,000 y flwyddyn i weithwyr llawn amser.

Mae'n debygol y bydd Multiply sy'n brosiect £560 miliwn i ddatblygu sgiliau rhifedd "ar draws y DU" hefyd yn cael ei gyhoeddi, ond mae'n aneglur sut fydd y cynllun yn cael ei weithredu yng Nghymru gan fod addysg yn faes datganoledig.

Bydd mwy o fuddsoddiad i fynd i'r afael â throsedd, gan gynnwys arian ychwanegol i Lys Erlyn y Goron i wella ymateb i achosion o dreisio ac ymosodiadau rhyw.

Mae adroddiadau hefyd y gallai'r dreth ar werth (VAT) o 5% ar filiau ynni aelwydydd gael ei leihau ac y gallai benthyciadau myfyrwyr newid fel bod myfyrwyr yn dechrau talu'r arian yn ôl ynghynt.

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei ddweud?

Nid yw Llywodraeth Cymru wedi dweud llawer am yr hyn sy'n debygol o gael ei gyhoeddi gan y Canghellor.

Maen nhw'n aros tan y bydd y cyhoeddiadau swyddogol wedi dod am y cynlluniau gwariant.

Ond ddydd Mawrth fe alwodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, ar y Canghellor i weithio gyda Llywodraeth Cymru er mwyn darparu "arian hir dymor" i wneud tomenni glo yn ddiogel.

Ond mae Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, y Cynghorydd Andrew Morgan, wedi awgrymu na fydd Llywodraeth y DU yn darparu buddsoddiad ychwanegol i sicrhau diogelwch tomenni glo yng Nghymru.

Beth mae Plaid Cymru am ei weld?

Mae Plaid Cymru wedi dweud eu bod am weld mesurau penodol i fynd i'r afael â chostau byw, yr hinsawdd a swyddi.

Fore Mercher fe alwodd Ben Lake AS llefarydd Trysorlys Plaid Cymru am "bolisïau cadarn" a fydd yn rhoi mwy o arian yng nghodennau pobl, dangos arweiniad ar drothwy cynhadledd hinsawdd COP26 a lleihau ychydig o'r pwysau sy'n wynebu busnesau bach.

Beth am y Democratiad Rhyddfrydol?

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi galw ar y Canghellor i roi tynnu cladin wrth wraidd y Gyllideb yn dilyn trychineb Grenfell yn 2017, pan losgodd bloc o fflatiau yn Llundain.

Mae Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Syr Ed Davey, wedi galw am drethi ychwanegol i gynhyrchwyr nwy er mwyn cefnogi trosglwyddiad i economi werdd a chynorthwyo teuluoedd i dalu biliau.

Fe fydd y Canghellor yn amlinellu'r Gyllideb brynhawn Mercher wedi i sesiwn Cwestiynau i'r Prif Weinidog ddod i ben.

Llun: Trysorlys

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.