Dyn o'r Fflint yn cyfaddef stelcian y cyflwynydd Louise Minchin

Mail Online 26/10/2021
Louise Minchin - Heddlu West Midlands

Mae dyn o'r Fflint wedi cyfaddef stelcian y cyflwynydd teledu Louise Minchin.

Mae Carl Davies, 44, wedi ei gyhuddo o stelcian cyn-gyflwynydd BBC Breakfast, Ms Minchin, a'i merch Mia sydd yn oedolyn.

Roedd disgwyl iddo wynebu treial yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Mawrth, ond fe newidiodd ei ble i euog cyn i reithgor dyngu llw.

Mae Davies eisoes wedi derbyn dedfryd ohiriedig am stelcian y gantores Girls Aloud, Nicola Roberts.

Dywed y Mail Online fod yr achos wedi ei ohirio er mwyn i adroddiad seiciatryddol gael ei baratoi ar gyfer y cyn-filwr, sy'n honni iddo fod yn byw â PTSD. 

Mae Davies wedi ei ryddhau ar fechnïaeth amodol ac fe fydd yn cael ei ddedfrydu ar Ragfyr 15.

Darllenwch fwy o fanylion yma.

Llun: Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.