Image

Mae rhybudd melyn yn ei le ar gyfer glaw trwm i rannau o Gymru o oriau man dydd Iau.
Bydd rhybudd y Swyddfa Dywydd mewn grym rhwng 00:00 ddydd Iau ac yn parhau tan 23:59 ddydd Gwener.
Fe allai’r glaw achosi llifogydd mewn rhai cartrefi a busnesau, a gallai gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus gael eu heffeithio hefyd.
Y siroedd sy’n wynebu’r rhybudd yw Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion, Conwy, Gwynedd, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Powys ac Ynys Môn.
Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.