Datgelu’r ardaloedd sydd â’r nifer uchaf o domenni glo risg uchel

Mae gan Rhondda Cynon Taf fwy o domenni glo risg uchel na’r un awdurdod lleol arall yng Nghymru yn ôl data sydd wedi ei gyhoeddi ddydd Mawrth.
Mae 327 tomen glo yng Nghymru yn y categori risg uwch, gyda 75 o’r rheiny yn ardal Rhondda Cynon Taf, medd Golwg360.
Caiff y data ei ryddhau wrth i Lywodraeth Cymru alw ar Lywodraeth San Steffan i fuddsoddi mwy o arian i ddiogelu tomenni glo.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn mynnu fod y rheolaeth o domenni glo yn fater datganoledig, ac felly nad yw’n fater y bydden nhw’n darparu rhagor o gyllid tuag ato.
Darllenwch y stori’n llawn yma.