Plismyn yn camddefnyddio eu pŵer i elwa’n rhywiol

The Independent 26/10/2021
Newyddion S4C
Newyddion S4C

Achosion o blismyn yn defnyddio eu safleoedd i elwa’n rhywiol yw’r math fwyaf cyffredin o lygredd difrifol sy’n cael ei ymchwilio, yn ôl pwyllgor sy’n arolygu ymddygiad yr heddlu.

Mae’r Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) wedi galw ar luoedd yng Nghymru a Lloegr i ddangos dim goddefgarwch i’r math yma o ymddygiad.

Dywed y Swyddfa fod yr ymddygiad yn targedu pobl sy’n agored i niwed, ac fe allai amrywio o fynd yn rhy bell gyda chyswllt, negeseuon fflyrtiog, i droseddau rhyw sydd wedi arwain at erlyniad.  

Mae The Independent yn adrodd ers 2018, mae 66 o swyddogion a gweithwyr yr heddlu wedi wynebu achos disgyblu ar ôl bod yn destun ymchwiliad o gamddefnyddio eu swydd i elwa’n rhywiol, gyda 42 ohonynt yn 2020.

Daw’r cyhoeddiad rhai wythnosau ar ôl i’r cyn-heddwas Wayne Couzens dderbyn dedfryd gydol oes am herwgipio, treisio a llofruddio Sarah Everard.

Clywodd y llys ar y pryd fod Couzens wedi defnyddio ei gerdyn adnabod a gefynnau i herwgipio Ms Everard.

Mae’r IOPC wedi galw ar heddluoedd i “ddadwreiddio’r” math yma o ymddygiad yn gyfan gwbl.

Darllenwch y stori’n llawn yma

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.