Newyddion S4C

Alex Cuthbert yn dychwelyd i garfan Cymru wedi pedair blynedd

25/10/2021
Alex Cuthbert

Mae’r asgellwr Alex Cuthbert yn dychwelyd i garfan rygbi Cymru ar ôl pedair blynedd.

Mae’r chwaraewr 31 oed o'r Gweilch yn ymuno â’r garfan ddyddiau’n unig cyn gêm gyntaf Cymru yng Nghyfres yr Hydref ddydd Sadwrn.

Mewn datganiad, dywedodd Undeb Rygbi Cymru bod Alex Cuthbert, sydd wedi ennill 47 o gapiau hyd yma, wedi ymuno â'r garfan mewn sesiwn hyfforddi fore ddydd Llun.

Dyma’r tro cyntaf i Cuthbert chwarae ar lefel prawf ers y gêm yn erbyn Georgia yng Nghaerdydd yn 2017.  

Image
Alex Cuthbert / Wayne Pivac / rygbi (llun Huw Evans)
Alex Cuthbert yn ymuno â'r garfan mewn sesiwn hyfforddi gyda Wayne Pivac fore Llun 25 Hydref

Bydd y gêm gyntaf yn erbyn Seland Newydd yn digwydd yn Stadiwm Principality ar 30 Hydref. 

Cyhoeddodd Wayne Pivac ei garfan llawn yn gynharach ym mis Hydref.

Carfan Cymru:

Blaenwyr: Wyn Jones (Scarlets), Rhodri Jones (Y Gweilch), Rhys Carre (Caerdydd), Ken Owens (Scarlets), Elliot Dee (Y Dreigiau), Ryan Elias (Scarlets), Dillon Lewis (Caerdydd), WillGriff John (Scarlets), Tomas Francis (Y Gweilch), Alun Wyn Jones (Y Gweilch), Adam Beard (Gweilch), Will Rowlands (Y Dreigiau), Ben Carter (Y Dreigiau), Seb Davies (Caerdydd), Christ Tshiunza (Exeter), Ross Moriarty (Y Dreigiau), Thomas Young (Wasps), Taine Basham (Y Dreigiau), Ellis Jenkins (Caerdydd), Aaron Wainwright (Y Dreigiau), Taulupe Faletau (Bath).

Olwyr: Tomos Williams (Caerdydd), Gareth Davies (Scarlets), Keiran Hardy (Scarlets), Gareth Anscombe (Y Gweilch), Rhys Priestland (Caerdydd), Dan Biggar (Northampton), Callum Sheedy (Bryste), Johnny Williams (Scarlets), Jonathan Davies (Scarlets), Nick Tompkins (Saracens), Willis Halaholo (Caerdydd), Ben Thomas (Caerdydd), Josh Adams (Caerdydd), Owen Lane (Caerdydd), Louis Rees-Zammit (Gloucester), Johnny McNicholl (Scarlets), Liam Williams (Scarlets)

Lluniau: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.