Marwolaeth Logan Mwangi: Ei fam yn y llys wedi’i chyhuddo o’i ladd

Mae menyw wedi ymddangos yn llys y goron ddydd Llun wedi’i chyhuddo o ladd ei bachgen pum mlwydd oed.
Cafodd Logan Mwangi ei ddarganfod yn yr afon Ogwr ger ei gartref ym Mharc Pandy ar 31 Gorffennaf.
Roedd wedi dioddef sawl anaf, gan gynnwys afu wedi’i rwygo ac roedd asgwrn ei goler wedi torri, meddai The Sun.
Roedd Angharad Williamson, 30, gerbron Llys y Goron Casnewydd fore Llun wedi ei chyhuddo o lofruddiaeth.
Fe siaradodd Williamson, wnaeth ymddangos drwy gyswllt fideo, i gadarnhau ei henw a’i dyddiad geni yn unig, cyn cael ei chadw yn y ddalfa.
Mae llanc 14 oed, nad oes modd ei enwi am resymau cyfreithiol, ynghyd â llys dad Logan, John Cole, 39 oed, hefyd wedi eu cyhuddo o lofruddiaeth.
Darllenwch y stori’n llawn yma.