
Cynnig cynllun £1.7bn i gynhyrchu ynni adnewyddadwy yn Abertawe
Mae cynnig wedi ei wneud i ddatblygu safle cynhyrchu ynni adnewyddadwy gwerth £1.7bn ar gyfer Morlyn Abertawe.
Mae Prosiect Eden Las yn cynnwys morlyn llanw newydd a phaneli solar sy’n arnofio ar y dŵr.
Cwmni DST Innovations o Ben-y-bont ar Ogwr sydd yn arwain y trydydd cynllun i adeiladu'r morlyn.
Mae’n cael ei gefnogi gan Gyngor Abertawe, ond, yn wahanol i'r ddau gynllun blaenorol, ni fydd yn ddibynnol ar arian cyhoeddus.

Mae disgwyl i’r cynllun i gael ei gyflwyno dros y 12 mlynedd nesaf, gyda’r gwaith yn dechrau ar y safle yn 2023 yn amodol ar ganiatâd cynllunio.
Un o’r cynlluniau cychwynnol yw adeiladu ffatri cynhyrchu batris uwch-dechnoleg ar gyfer storio ynni adnewyddadwy.
Bydd 72,000 metr sgwâr o baneli solar arnofiol yn cael eu hangori yn ardal Doc y Frenhines, y cyfleuster fwyaf o’i fath yn y DU yn ôl y cynllunwyr.
Maent hefyd yn bwriadu adeiladu cartrefi ar gyfer 5,000 o bobl, a 150 o eco-gartrefi sy’n arnofio ar y dŵr.

Mae’r cynllun yn gobeithio cefnogi 16,000 o swyddi ar draws ardal Bae Abertawe yn y tymor hir.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Abertawe, y Cynghorydd Rob Stewart: "Bydd Eden Las yn sicrhau bod Abertawe a Chymru ar flaen y gad o ran arloesedd ynni adnewyddadwy byd-eang, gan helpu i greu miloedd o swyddi â chyflogau da, lleihau ein hôl troed carbon yn sylweddol, a gwella proffil Abertawe ar draws y byd fel lle i fuddsoddi ynddo.”
Ychwanegodd y gallai’r prosiect “newid pethau’n sylweddol i Abertawe” ac nad yw’n ddibynnol ar arian cyhoeddus gan y llywodraeth.
"Ma rhaid i ni gael morlyn a ma rhaid i ni gael ffyrdd newydd o gael ynni sydd ddim yn ddibynnol ar wledydd eraill."
— Newyddion S4C (@NewyddionS4C) October 25, 2021
Mae'r trydydd cynnig wedi ei wneud i ddatblygu safle cynhyrchu ynni adnewyddadwy ar gyfer Morlyn Bae Abertawe, sy'n gobeithio cefnogi 16,000 o swyddi. pic.twitter.com/JmjVHvDJJR
Yn ôl cyn-Brif Weindiog Cymru, Carwyn Jones, ei fod yn "drueni" na gytunwyd ar y cynlluniau blaenorol.
Dywedodd wrth raglen Newyddion S4C: "Oedd e'n drueni bod e ddim wedi llwyddo o'r blaen achos llywodraeth y Deyrnas Unedig nath ladd y prosiect tro diwetha."
"Fi'n falch dros ben bod na gwmni ym Mhen-y-bont nawr yn edrych ar ffordd i symud ymlaen gyda'r morlyn."
"Ma rhaid i ni gael morlyn a ma rhaid i ni gael ffyrdd newydd o gael ynni sydd ddim yn ddibynnol ar wledydd eraill."
Daeth y cynllun blaenorol i ben yn 2018 ar ôl i Drysorlys Llywodraeth y DU benderfynu nad oedd "gwerth am arian."
Dywedodd Tony Miles, Prif Weithredwr DST Innovations, "Mae Eden Las yn gyfle i greu templed i'r byd ei ddilyn - defnyddio ynni adnewyddadwy a mwyafu'r defnydd o dechnolegau newydd, a meddwl am ddatblygu ardal i fyw a gweithio ynddi ond hefyd i ffynnu."
Byddai oddeutu 320 megawat o ynni adnewyddadwy yn cael ei gynhyrchu ar y safle 9.5km petai’n llwyddiannus, gyda’r ynni sy’n cael ei gynhyrchu yn pweru’r datblygiad yn gyfan gwbl.
Bydd angen i Lywodraeth Cymru a Chyngor Abertawe roi caniatâd cynllunio er mwyn i'r cynllun fynd yn ei flaen.