
Galw am 'newid radical' i amddiffyn menywod

Galw am 'newid radical' i amddiffyn menywod
Mae ymgynghorydd y llywodraeth i atal trais yn erbyn menywod wedi dweud wrth raglen Newyddion S4C bod cyfrifoldeb ehangach ar wasanaethau i ddiogelu menywod.
Daw sylwadau Rhian Bowen-Davies wedi adroddiadau o ferched yn cael eu chwistrellu ar nosweithiau allan a’u diodydd yn cael eu sbeicio.
Mae wedi galw am “newid radical” i’r ffordd mae cymdeithas yn delio gydag achosion o drais yn erbyn menywod.
“Dwi’n poeni’n fawr am yr adroddiadau ni di clywed dros yr wythnosau diwethaf ynglŷn â’r troseddau yn erbyn merched a menywod sydd allan yn mwynhau noson allan gyda’u ffrindiau.
“Dwi’n credu bod hyn yn adlewyrchiad unwaith eto o sgil y raddfa, a hefyd pa mor ddifrifol a cyffredin ma’ trais yn erbyn merched a menywod yn ein cymdeithas".

‘Agwedd annerbyniol’
“'Da ni di clywed sawl person yn yr wythnosau diwethaf yn sôn am sut dylai merched a menywod diogelu eu hun pan ma' nhw allan ar fin nos.
“Ond ma' hyn yn agwedd annerbyniol a ma' rhaid i ni newid y naratif 'da ni'n clywed - nid cyfrifoldeb merched a menywod yw i fod yn ddiogel pan ma' nhw allan.
“Mae cyfrifoldeb ar rheini sy'n cyflawni'r trais yma ac mae hefyd cyfrifoldeb ar berchnogion clybiau, tafarndai a llefydd eraill i neud yn siŵr fod y llefydd yma'n ddiogel i ferched a menywod.
“Mae hefyd cyfrifoldeb ar wasanaethau, er enghraifft yr heddlu i gymryd yr adroddiadau yma'n ddifrifol, ac i ymateb fel bydda nhw gydag unrhyw drosedd arall.
“Dwi'n credu ma' raid i ni gael newid eithaf radical ynglŷn â sut 'da ni'n ymateb i'r fath yma o drais yn erbyn menywod a merched yn ein cymdeithas".
Mae'r Ysgrifennydd Cartref Priti Patel wedi gofyn i heddluoedd am ddiweddariad yn dilyn nifer o achosion o ferched yn adrodd eu bod wedi eu sbeicio gan nodwyddau mewn clybiau nos.
Mae boicot o glybiau yn cael ei gynllunio mewn rhai dinasoedd, gan gynnwys Caerdydd, ar 29 Hydref.