Newyddion S4C

Mike Phillips yn chwarae dros ei glwb lleol bedair blynedd ers ymddeol

23/10/2021

Mike Phillips yn chwarae dros ei glwb lleol bedair blynedd ers ymddeol

Bydd cyn-chwaraewr rygbi Cymru Mike Phillips yn dychwelyd i chwarae dros ei dîm cartref, Hendy-gwyn ar Daf, ddydd Sadwrn.

Fe wnaeth Phillips, a chwaraeodd dros y Scarlets, y Gleision, y Gweilch, Cymru a'r Llewod dros y blynyddoedd, ymddeol yn 2017.

Ond ddydd Sadwrn, fe fydd Phillips yn chwarae dros dîm cyntaf Hendy-gwyn yn safle rhif naw.

Fe fydd y clwb yn chwarae yn erbyn Aberystwyth adref ym Mharc Llwyn Tŷ Gwyn.

Dywedodd Mike Phillips wrth Newyddion S4C: “Fi’n edrych mas draw am y gêm dydd Sadwrn, ‘nôl yn whare fan hyn lawr yn Hendy-gwyn. 

“Gêm enfawr yn erbyn Aberystwyth, edrych ‘mlaen dros ben am y gêm a gobeitho ni cael crowd enfawr ‘ma a gobeitho bydd y tywydd yn iawn.

“Mae e jyst yn teimlad gwych i fod ‘nôl ‘ma i gweld pob un a gobeitho ni cael diwrnod llwyddiannus i’r clwb a pob un yn enjoio”.

‘Sypreis neis iawn’

Pan soniodd Phillips ei fod yn lansio ei lyfr, gofynnodd Trysorydd Clwb Rygbi Hendy-gwyn ar Daf a fyddai’n fodlon chwarae dros y clwb.

Dywedodd Susan Evans, Ysgrifennydd y Clwb wrth Newyddion S4C ei fod yn “sypreis neis iawn” i glywed fod Phillips wedi cytuno i ail-ymuno â’r garfan ar gyfer y gêm.

Dywedodd Ms Evans: “Fi’n cofio fe’n whare i’r tîm ieuenctid a ni gyd wedi dilyn e ers ‘ny wrth gwrs. Ni gyd yn browd iawn ohono fe, ac yn edrych 'mlan i weld e nôl.

“Bydd crowds 'ma ddydd Sadwrn, sdim dowt. Ni’n cael pre-match buffet gyda’r sponsors, a ma lot mwy o sponsors ddydd Sadwrn!”

Ychwanegodd Ms Evans: “Ma hi di bod yn amser caled iawn i’r clwb gyda’r pandemig.

“Dim rygbi o gwbwl, y clwb ei hunan ar gau, plant ddim yn gallu cwrdd.

“Ma hi di bod yn galed i fi hefyd – yn ishte fan hyn, fi di arfer rhedeg rownd a neud gymaint da’r clwb bob nos.

“Mae e wedi cael effaith pellach hefyd achos ni’n ffeindio bod hi’n anodd cal pobl nôl i traino, pobl wedi ffeindio pethe arall i neud yn lle.

“Felly ma ishe rhwbeth i ddigwydd i gal bach o hwb”.

Mae'r gwrthwynebwyr hefyd yn edrych ymlaen at chwarae yn erbyn Mike Philips. 

Mewn neges ddychanol ar gyfrif Twitter Clwb Rygbi Aberystwyth gofynnwyd "pwy fydd yn dod i’r brig ar ddiwedd y gêm? Yr arwr rygbi neu'r chwaraewr lleol? 

Fe fydd y gic gyntaf am 14:30.

Llun: Twitter / @mikephillips009

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.