Grant £1.3m i gynllun plannu coed yn mynd tu allan i Gymru

Grant £1.3m i gynllun plannu coed yn mynd tu allan i Gymru
Mae rhaglen Newyddion S4C ar ddeall bod £1.3miliwn o grantiau Llywodraeth Cymru ar gyfer cynllun plannu coed, ‘Creu Coetir Glastir’, wedi mynd at gyfeiriadau y tu allan i Gymru.
Dros y misoedd diwethaf, mae sawl enghraifft o gynlluniau posib lle mae cwmnïau yn bwriadu prynu ffermydd gyda’r bwriad o blannu coed wedi dod i'r amlwg.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar yr Amaethyddiaeth a Materion Gwledig, Cefin Campbell AS: “Mae arian sydd wedi ei glustnodi drwy Glastir fod i gefnogi ffermwyr yng Nghymru. Ma nhw'n wynebu nifer o heriau ar hyn o bryd, ma gwir angen y gefnogaeth ar ffermwyr Cymru.
"Nid lle Llywodraeth Cymru yn fy marn i yw llenwi pocedi cwmnïau rhyngwladol wedi eu lleoli yn Llundain.”
Ers cyflwyno’r grantiau cyntaf i annog tyfu rhagor o goed nôl yn 2015, mae £1,306,561 wedi mynd i gwmnïau sydd â’u cyfeiriadau y tu hwnt i Glawdd Offa.
Mae hynny’n cynrychioli 14% o’r holl arian sydd wedi ei neilltuo fel rhan o’r cynllun ‘Creu Coetir Glastir’.
Yn ystod y cyfnod o gyflwyno grantiau ym mis Ebrill 2019, aeth chwarter y grantiau allan o Gymru. Yn ystod mis Mawrth y llynedd, unwaith eto, cyfeiriadau y tu hwnt i’r ffin oedd yn derbyn dros 20% o’r arian.
'Llifo dros y ffin o Gymru i bocedi cwmnïe' rhyngwladol'
“Dyma gadarnhau ein hofnau,” meddai Cefin Campbell.
“Mae arian cyhoeddus, trwy’r cynllun ‘Creu Coetir Glastir’ yn llifo dros y ffin o Gymru i bocedi cwmnïe' rhyngwladol sy’n gyfrifol am gymryd tir amaeth Cymreig er mwyn gwneud yn iawn am eu hôl troed carbon.
“Beth y’ ni'n weld yw ffermydd cyfan yn cael eu prynu er mwyn plannu coed. Be mae hynny'n golygu yw bod coed yn dod o flaen pobol a bod diboblogi cefn gwlad yn dod yn fater difrifol iawn ac mae'n gwneud newid natur ein cymunedau ni ac yn fygythiad i'r iaith Gymraeg.”
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym ni eisiau cefnogi ffermwyr a pherchnogion tir Cymru i blannu mwy o goed, a hynny ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd.
"Rydym wedi sefydlu gweithgor i ystyried sut y gallwn sicrhau nad yw creu coetir yn tarfu ar gymunedau a phatrymau perchnogaeth tir presennol.
“Rydym yn ymwybodol iawn o’r pryder ynghylch nifer fach o ffermydd yn cael eu gwerthu i gronfeydd buddsoddi y tu allan i Gymru i greu coetir. Nid ydym yn credu bod y ffigurau hyn yn dangos hynny.
"Mae'r ffigurau hyn yn cynnwys elusennau coetir ledled y DU sydd â gweithwyr yng Nghymru ond cyfeiriadau i'w prif swyddfa y tu allan i Gymru. ”