Miriam Elin Sautin yn ennill Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd 2020-21

20/10/2021
Miriam Elin Sautin

Miriam Elin Sautin yw enillydd Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd 2020-21.

Flwyddyn yn ddiweddarach, mae Miriam yn derbyn ei gwobr gan i'r ŵyl gael ei gohirio yn 2020 oherwydd pandemig Covid-19.

Daw’r dramodydd buddugol o Lanbedrog ym Mhen Llŷn ac enillodd y gystadleuaeth ar sail drama sy’n cymryd rhwng 40-60 munud i’w pherfformio.

Drwy gydol yr wythnos hon, mae Eisteddfod yr Urdd yn gwobrwyo’r holl waith cyfansoddi buddugol ddaeth i law cyn y cyfnod clo cyntaf yng ngwanwyn 2020, a chyn gorfod gohirio'r Eisteddfod yn Ninbych oherwydd Covid-19.

‘Y dramodydd hefyd yn fardd’

Yn ôl y beirniaid Llinos Gerallt a Sian Naiomi, daeth Miriam i’r brig gyda “drama afaelgar a safonol”.

Dywedodd y beirniad Llinos Gerallt: “Fe hawliodd y ddrama hon ein sylw o’r dudalen gyntaf.

“Drama sy’n llawn dirgelwch ac amwynder gyda diweddglo cryf. Mae cymhlethdod a blerwch bywyd i gyd yma,” ychwanegodd.

“Mae’r dramodydd hefyd yn fardd, ond yn gofalu nad yw’r barddoniaeth yn tarfu ar lif a thempo’r ddrama.”

Mae Miriam yn hoff o ysgrifennu a darllen ers yn blentyn, ac wedi arbrofi gyda sawl genre megis dramâu, straeon byrion a barddoniaeth.

Dywedodd bod ei magwraeth, sydd dafliad carreg o lan môr ac wedi ei gysgodi gan fynyddoedd Eryri, yn bwydo fewn i’w gwaith creadigol.

Fel hanner Cymraes a hanner Ffrances, mae iaith a hunaniaeth hefyd yn themâu arwyddocaol yn ei gwaith a thynfa ei chenhedlaeth rhwng diwylliant Cymru a dylanwadau fwy rhyngwladol.

Image
medal ddrama
Y fedal ddrama sydd wedi ei chreu gan gwmni gemwaith Rhiannon

Mae Miriam, sydd bellach yn gweithio i Lenyddiaeth Cymru, yn derbyn medal arbennig wedi ei chreu gan gwmni gemwaith Rhiannon o Dregaron.

Bydd yn cael y cyfle i dreulio amser yng nghwmni Theatr Genedlaethol Cymru yn datblygu ei gwaith buddugol, derbyn hyfforddiant pellach gyda’r BBC, datblygu syniadau gyda Choleg Prifysgol y Drindod Dewi Sant, yn ogystal â threulio amser gydag S4C a chael cyflwyniad i ysgrifennu ar gyfer y teledu.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.