Diwedd darlledu teledu traddodiadol erbyn 2034?
‘Parhau i symud i'r cyfeiriad digidol’, dyna neges Prif Weithredwr S4C wrth i’r sianel gyhoeddi eu hadroddiad blynyddol ddydd Iau.
Mewn cyfweliad gyda Newyddion S4C, fe ddywedodd Geraint Evans fod y sianel yn 'barod am y blynyddoedd nesa’ wrth i batrymau gwylio barhau i newid, gyda gwylwyr yn troi fwyfwy at blatfformau digidol.
Mae Mr Evans yn rhagweld y bydd yr holl wylio teledu yn digwydd drwy’r we erbyn 2034, a "dyna fydd y dyfodol i bob sianel" meddai.
Mae adroddiad blynyddol S4C yn nodi’n glir fod y sianel bellach yn targedu mwy o'u cyllideb i ddatblygu gwasanaethau digidol aml-gyfrwng yn hytrach na'r cyfrwng llinol traddodiadol, a hynny wrth i ddarlledwyr cyhoeddus fel S4C a’r BBC (sy’n cael eu hariannu gan y ffi-drwydded) wynebu fwy o gystadleuaeth gan wasanaethau ffrydio byd-eang, fel Netflix ac Amazon Prime.
Yn ôl yr adroddiad, y gyfres Cleddau ydy'r rhaglen ddrama iaith Gymraeg gafodd y nifer uchaf erioed o sesiynau gwylio ar iPlayer, tra bod rhaglenni chwaraeon yn parhau i fod ymhlith y darllediadau mwyaf poblogaidd, gyda saith o'r 10 darllediad uchaf ar restr fwyaf poblogaidd S4C yn rhaglenni sy'n cynnwys gemau pêl-droed neu rygbi.
Ar frig y rhestr roedd 440,000 o bobl yn gwylio'r gêm rhwng tîm pêl-droed dynion Cymru a Gwlad yr Iâ yng Nghynghrair y Cenhedloedd ym mis Tachwedd, ac fe sicrhaodd Mr Evans y byddai S4C yn gwneud eu “gorau glas i sicrhau fod yr hawliau i ddarlledu gemau chwaraeon yn rhad ac am ddim i’r gwylwyr” yn parhau yng Nghymru.
Mae’r sianel hefyd yn dathlu fod cyfresi fel Y Llais ac Amour a Mynydd wedi denu cynulleidfaoedd newydd, ifanc, a siaradwyr Cymraeg newydd, a bod dros hanner y gynulleidfa ar gyfer Amour a Mynydd dan 45 oed.
Er y penawdau yn y maes digidol, mae llai o bobl yn gwylio'r sianel deledu draddodiadol gyda 306,000 o wylwyr yn wythnosol yn ystod 2024/25, sydd ychydig yn llai na’r flwyddyn flaenorol, pan roedd 310,000 yn gwylio’r sianel.
Fe ychwanegodd Mr Evans: “Dwi’n falch o allu dathlu’r twf ar gyfrifon cymdeithasol ar draws S4C, ac un peth addawol eleni tu hwnt i’r adroddiad blynyddol, yn ystod y flwyddyn [24/25] lle'r oedd siâr S4C o’r gynulleidfa sy’n gwylio ar clic ac ar iplayer yn 14%, ond yn y tri mis cynta’ eleni yn barod mae hwnnw i fyny I 20% yn barod.”