Pump wedi marw yn dilyn ymosodiad bwa a saeth yn Norwy
14/10/2021
Pump wedi marw yn dilyn ymosodiad bwa a saeth yn Norwy
Mae o leiaf pump o bobl wedi marw a sawl arall wedi eu hanafu yn dilyn ymosodiad gyda bwa a saeth mewn tref yn Norwy.
Yn ôl The Guardian, mae dyn lleol 37 oed wedi ei arestio a'i gyhuddo ac yn cael ei gwestiynu gan yr heddlu ar hyn o bryd.
Cadarnhaodd pennaeth yr heddlu yno fod y dyn wedi defnyddio bwa a saeth ar gyfer “rhai o’r ymosodiadau”, a ddigwyddodd mewn caffi yn y dref.
Maent hefyd yn ymchwilio i weld os cafodd arfau eraill eu defnyddio.
Darllenwch y stori’n llawn yma.