Y pêl-droediwr rhyngwladol David Brooks yn cyhoeddi fod ganddo ganser
Mae’r chwaraewr pêl-droed David Brooks wedi cyhoeddi fod ganddo ganser.
Mewn datganiad ddydd Mercher, dywedodd Brooks, sydd yn chwarae dros Gymru a Bournemouth, fod y newyddion wedi bod yn “sioc” iddo ef a’i deulu.
Rhannodd y newyddion gyda’i ddilynwyr ar Twitter gan ddatgelu ei fod wedi derbyn diagnosis o Hodgkin Lymphoma Cam II.
Fe fydd Brooks yn dechrau ar driniaeth ar gyfer y cyflwr yr wythnos nesaf.
Mae Brooks wedi chwarae dros Gymru ers 2017, ac fe ymunodd â Bournemouth yn 2018.
— David Brooks (@DRBrooks15) October 13, 2021
Dywedodd Brooks: “Rwyf yn hyderus y byddaf yn gwella’n llawn ac yn dychwelyd i chwarae cyn gynted â phosib”.
Rhannodd ei ddiolch i’r staff meddygol sydd wedi bod yn ei drin am eu “proffesiynoldeb, cynhesrwydd a dealltwriaeth”.
Roedd Brooks wedi ei enwi yng ngharfan Cymru ar gyfer gemau yr hydref yn eu hymgyrch ragbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2022.
Serch hynny, fe gyhoeddodd y Gymdeithas Bel-droed yn gynharach wythnos diwethaf ei fod allan o'r garfan oherwydd salwch.
DIWEDDARIAD CARFAN 🏴
— Wales 🏴 (@Cymru) October 6, 2021
Ben Davies and David Brooks have had to withdraw from the squad due to illness.
Brysiwch wella hogia! #TogetherStronger pic.twitter.com/gO3hXHnPNh
Yn ei ddatganiad ddydd Mercher, fe ddiolchodd Brooks i Undeb Bêl-droed Cymru gan fod “sylw brys” y tîm meddygol wedi eu galluogi i adnabod y salwch.
Fe ddiolchodd y chwaraewr canol cae i’w glwb Bournemouth am eu cefnogaeth a chymorth dros yr wythnos ddiwethaf.
Diolchodd i bawb am eu negeseuon o gefnogaeth a gofyn i bobl barchu ei breifatrwydd dros y misoedd nesaf.
Llun: Asiantaeth Luniau Huw Evans