Ymdrech i ehangu darpariaeth llyfrau Cymraeg i ddysgwyr

Ymdrech i ehangu darpariaeth llyfrau Cymraeg i ddysgwyr
O'r llafar i'r llyfrau, ar ôl symud o Fryste i'r Fenni penderfynodd Lois Arnold ddysgu Cymraeg, gan sylweddoli bod bwlch yn y ddarpariaeth i ddysgwyr.
Ers 2003 mae wedi bod yn ysgrifennu llyfrau i'r sawl sy'n dysgu'r Gymraeg, a hyd yma wedi cyhoeddi pump o lyfrau gwahanol.
Dywedodd Lois wrth raglen Newyddion S4C: “Dwi'n cofio cael llyfrau o'r llyfrgell i blant iaith gyntaf, plant bach a methu darllen nhw, ac o'n i'n meddwl reit mae isho rywbeth.
“Erbyn hyn dwi wedi ysgrifennu pump ac yr un mwyaf diweddar yw 'Gorau Glas' - llyfr am anturiaethau swyddog heddlu.
“Dwi hefyd yng nghanol ysgrifennu un am bwyllgor apêl yr Eisteddfod, sydd ddim yn swnio'n ddiddorol iawn ond mae'n dilyn hynt a helynt y criw".
Ar Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg, mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi pwysleisio eu nod o gynyddu nifer y rhai sy'n dysgu a defnyddio'r Gymraeg - a hynny fel rhan o uchelgais Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
I Lois, a enillodd gwobr Dysgwr Cymraeg y Flwyddyn yn 2004, roedd chwilio am gyfleoedd i ddefnyddio'r iaith yn y gymuned hefyd yn her, ac fe arweiniodd hynny at benderfyniad Lois i helpu sefydlu Menter Iaith yn ei hardal ar y pryd.
“O'n i wedi bod ar y pwyllgor apêl ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol y Fenni yn 2016, ac ar ôl yr Eisteddfod o'n i'n teimlo mae isho rywbeth arall awr, cyfleoedd i bobl dod at ei gilydd a siarad Cymraeg, dysgwyr a Cymry Cymraeg i ddod at ei gilydd.
“Hyd yn oed mewn ardal Gymraeg iawn mae rhaid dod o hyd i gyfleoedd achos weithiau dydych chi ddim yn sylweddoli cymaint o siaradwyr Cymraeg sy' yn yr ardal".
Mae’n cydnabod bod y cyfleoedd hynny wedi bod yn fwy prin oherwydd Covid yn ystod y flwyddyn a hanner diwethaf, ond mae’n falch o weld digwyddiadau cymdeithasol yn ail ddechrau.