
Annog mwy i ymuno â chorau meibion ‘i gadw’r traddodiad yn fyw’
Annog mwy i ymuno â chorau meibion ‘i gadw’r traddodiad yn fyw’
Mae arolwg diweddar gan Gymdeithas Corau Meibion Cymru yn dangos fod gostyngiad mewn niferoedd corau meibion yng Nghymru.
Yn ôl Iwan Williams, arweinydd côr meibion Hogia’r Ddwylan o Borthaethwy, mae corau meibion yn rhan fawr o ddiwylliant Cymru ac mae’n holl bwysig ei bod yn cael ei basio mlaen i’r genhedlaeth iau.
“Mae o’n ddyletswydd arnom ni i basio’r etifeddiaeth yma ymlaen, mae o yn ddiwylliant ac yn draddodiad cyfoethog sydd gennym ni fel cenedl,” meddai Mr Williams.
“Yn bendant mae’n rhaid sicrhau ein bod ni’n ei basio mlaen i’r genhedlaeth nesa er mwyn cadw’r peth yn fyw i’r dyfodol.”
Mae’r arolwg newydd yn datgelu bod graddfa'r gostyngiad aelodau corau meibion yn amrywio o 2% i 40% gyda'r cyfartaledd rhwng 5% a 10%.
Wrth siarad gyda Newyddion S4C, dywedodd Chris Evans, ysgrifennydd Cymdeithas Corau Meibion Cymru bod effaith y pandemig wedi chwarae rhan yn y gostyngiad o aelodau.
“Mae corau meibion dal yn y broses o ddod nôl yn dilyn cyfyngiadau Covid-19, dros y 18 mis diwethaf dydi corau heb allu recriwtio mwy o aelodau,” eglurodd.
“Dwi’n gwybod y bydd rhai corau'n ei chael hi'n anodd dod yn ôl, ond roedd rhai yn ei chael hi'n anodd beth bynnag, yn enwedig corau bach, gyda llai nag 20 aelod.
Yn ôl y Gymdeithas, mae corau meibion wedi gorfod moderneiddio er mwyn denu aelodau newydd.
“Bydd côr bach bob amser yn ei chael hi’n anodd gallu canu cerddoriaeth traddodiadol, a dyna pam rwy’n credu nad yw’r mwyafrif o gorau bellach yn canu cerddoriaeth traddodiadol Gymraeg yn unig, mae ganddyn nhw raglen lawer mwy amrywiol nawr,” dywedodd Mr Evans.
“Mae'r ffordd y mae corau'n gwisgo'r dyddiau hyn wedi newid hefyd, ychydig iawn o gôr sydd yn y blazers a throwsus llwyd erbyn hyn, mae repertoire corau wedi newid.”

Mae Iwan Williams hefyd yn pryderu am effaith Covid-19 ar ddyfodol corau meibion
“Mae o yn bryder bod y ddwy flynedd diwethaf wedi cael effaith ar niferoedd aelodau’r côr,” dywedodd.
“Mae rhywun yn meddwl hefyd be ydi dyfodol cyngherddau a chymanfaoedd canu; Ydi pobl yn mynd i fod yr un mor gyfforddus yn mynychu'r math yna o weithgaredd. Dwi’n gobeithio fel arall wrth gwrs, ond mae rhywun yn gorfod cynllunio ymlaen.”
Er yr heriau sydd wedi wynebu corau meibion Cymru, mae Mr Williams yn gobeithio bod y cyfyngiadau wedi rhoi cyfle i bobl werthfawrogi cerddoriaeth.
“Dwi’n amau bod y ddwy flynedd diwethaf yma wedi ail-danio brwdfrydedd mewn pobl hefyd,” dywedodd.
“‘Da ch'i ddim yn gwybod beth ydi gwerth rhywbeth nes i chi golli fo, ac mi oeddan ni'n llythrennol golli fo am gyfnod estynedig.”