Atal gwasanaethau mamolaeth bwrdd iechyd oherwydd salwch staff
Mae gwasanaethau mamolaeth wedi eu hatal dros dro yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan oherwydd prinder staff.
Mae bwrdd iechyd wedi atal eu gwasanaethau mamolaeth a gwasanaeth geni yn y cartref mewn pedwar ysbyty.
Yn ôl y bwrdd, maent yn delio â niferoedd uchel o enedigaethau a phrinder staff ar hyn o bryd oherwydd salwch a hunanynysu.
Yn sgil hyn, mae'r bwrdd wedi cyhoeddi y bydd eu gwasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Brenhinol Gwent, Ysbyty Nevill Hall, Ysbyty Aneurin Bevan ac Ysbyty Ystrad Fawr yn cael eu hatal dros dro.
Mae'r mesur mewn lle rhwng 7 Hydref hyd 18 Hydref er mwyn "gwarchod diogelwch menywod beichiog a babanod".
Mae mamau beichiog yn cael eu gyrru i Ysbyty Athrofaol Y Faenor am ofal.
Mewn datganiad ddydd Gwener, dywedodd y bwrdd iechyd: "Ar hyn o bryd rydym yn profi nifer uchel o enedigaethau ac absenoldeb staff tymor byr oherwydd salwch a hunanynysu yn ein gwasanaethau mamolaeth."
Mae'r bwrdd yn ymddiheuro i'r "nifer bychain" o fenywod beichiog fydd yn cael eu heffeithio.