Newyddion S4C

‘Angen mwy o amrywiaeth’ ar lwyfannau comedi Cymru

‘Angen mwy o amrywiaeth’ ar lwyfannau comedi Cymru

Mae Melanie Owen, 26 o Aberystwyth, wedi ennill ei chystadleuaeth stand yp cyntaf ar ôl meddwl nad oedd comedi “hyd yn oed yn opsiwn” iddi.

Dywedodd wrth Newyddion S4C nad oedd hi wedi ystyried mentro i’r byd comedi gan nad oedd hi’n “gweld pobl sy’n edrych fel [hi].”

Image
Melanie Owen

Dywedodd: “Os na bo ti'n gweld lot o bobl fel chdi'n gwneud rhywbeth, dwyt ti ddim yn meddwl am dy hunan yn gwneud e chwaith.

“Yn amlwg, does na ddim lot o menywod hyd yn oed 'dych chi'n gweld ar y teledu yn gwneud comedi, dw i'n siwr bod na lot fawr o menywod sy'n ceisio torri mewn i'r byd yna, ond falle sydd ddim yn cal y llwyfan fel dynion.”

Ychwanegodd: “Heb sôn am menywod o liw hefyd.

“Yn y byd comedi, ma angen gwella yn bendant achos fel wedes i, nes i ddim gweld unrhyw un yn edrych fel fi yn gwneud e felly nes i ddim hyd yn oed ystyried e fel opsiwn.”

‘Angen mwy o amrywiaeth’

Fe gafodd Melanie wahoddiad i ddigwyddiad ‘Merched mewn Comedi’ yn Llundain ar ôl i rywun wrando ar y podlediad mae hi’n cyd-gyflwyno.

Dywedodd Melanie na fyddai hi erioed wedi gwneud hyn heblaw bod rhywun arall wedi ei hannog hi.

“Mae'r byd comedi Cymraeg yn un cyffrous iawn ond ma angen mwy o amrywiaeth yn y lleisiau 'dan ni'n clywed,” ychwanegodd.

Nawr bod rhywun wedi annog fi, dw i yn dechrau meddwl fel ‘w, falle bod hwn yn opsiwn i fi’ achos odd e jyst byth yn rhywbeth on i wedi meddwl amdano'n gynt.”

Wyneb sydd wedi dod yn gyfarwydd yn y sîn comedi yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf yw Esyllt Sears.

Ers mwy na tair blynedd, mae wedi perfformio ar lwyfannau yn gwneud ‘stand yp’, yn sgriptio ac yn mentora comedïwyr ifanc.

Image
Esyllt Sears

Mae Esyllt yn dweud bod y byd comedi Cymreig yn dechrau gwella i fenywod a phobl o gefndir amrywiol.

Dywedodd: “Ma gyment mwy o ferched yn neud e [stand yp] nawr nag oedd na pan ddechreues i hyd yn oed.

“Dw i'n credu tua deng mlynedd yn ôl yng Nghymru falle dwy odd gyda ti ar y circuit, yn Ne Cymru ta beth, jyst dwy, a ma meddwl am biti hynna, jyst ti'n gwbod, hats off iddyn nhw bo nhw di neud e.”

Dywedodd Esyllt bod mentro i’r byd comedi yn anodd i bobl ifanc a’i fod yn gallu bod yn le brawychus.

Yn fam i ddau, fe wnaeth hi adael ei swydd blaenorol a mentro i’r byd comedi yn 37 oed.

Dywedodd: “Pan ddechreues i, on i tua 37. Dwi'n 40 nawr.

“A 'wy yn credu pan wyt ti'n hŷn ti yn poeni llai am biti be’ ma pobl yn meddwl amdano ti.”

‘Nawr ‘wy ddim yn poeni’

Ond ychwanegodd ei fod yn anodd i wneud y cam cyntaf i fyd stand yp a chomedi pan yn ifanc.

“Hyd yn oed tasen i wedi ishe yn fy ugeinie fydden i ddim di gallu achos fydden i di poeni gyment am biti ‘o, beth fydde so and so yn gweud, beth os fydd pobl yn meddwl bo fi'n ti 'mod yn ofnadw yn neud e’, lle nawr 'wy ddim wir yn poeni,” dywedodd.

Mae Esyllt bellach yn gweithio gyda’r comedïwraig Kiri Pritchard-McLean ar gynllun mentora i gomedïwyr ifanc a newydd.

Mae’r cynllun yn trefnu bod comedïwyr newydd yn cael eu mentora gan rai profiadol er mwyn rhoi mwy o hyder i bobl fentro i’r maes.

Dywedodd: “Mae ‘di bod yn anhygoel gweld faint o bobl sydd wedi ymuno gyda ni.

“A bod yn onest, ry’n ni’n stryglo i ateb e-byst pawb!”

Ychwanegodd: “Mae mor bwysig bod pethau fel hyn i gael i bobl ifanc a phobl sy’n ystyried comedi fel gyrfa neu fel diddordeb achos fel arall, mae’n gallu bod yn faes le chi ddim yn siwr iawn ble i ddechrau.”

Image
Melanie Owen

Ar ôl i Melanie gymryd y cam cyntaf, mae hi nawr yn edrych ymlaen i arbrofi yn y byd comedi.

Dywedodd: “Nawr ma dyddiadur fi'n dechre llenwi gyda'r dyddiadau ma bobl yn annog fi i ddod i fatha stand yp nights nhw a stwff a dw i'n hollol, hollol surprised.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.