Newyddion S4C

10 mynedd o garchar i ddyn am ymosodiad mewn clwb nos

08/10/2021
Alex Jones
HGC

Mae dyn 19 oed wedi cael ei ddedfrydu i 10 mlynedd yn y carchar yn dilyn ymosodiad ar ddyn arall mewn clwb nos yn Llandudno ym mis Awst. 

Fe blediodd Alex Jones o Fro Dirion, Treffynnon, yn euog i gyhuddiadau o anafu'n fwriadol a bod ag arf yn ei feddiant. 

Fe ddefnyddiodd Jones lafn rasal i ymosod ar Jake Pickstock yng nghlwb nos Club 147 ar Stryd Mostyn Uchaf yn y dref ar 21 Awst.

Mae Mr Jones wedi derbyn dedfryd o 10 mlynedd a phedwar mis ar ôl ymddangos o flaen Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Gwener. 

Yn dilyn y ddedfryd, dywedodd Ditectif Cwnstabl Richard Owens: “Rydw' i'n croesawu'r ddedfryd heddiw sydd wedi tynnu sylw at y ffaith bod meddiannu a defnyddio arf peryglus yn golygu y byddwch yn dedfryd lem mewn carchar.

"Nid ydym yn derbyn ymddygiad treisgar yn ein cymuned ac mae'r rhai sydd yn cael eu dal yn cael eu trin mewn ffordd gadarn. 

“Mae’r ymosodiad erchyll hyn, a ddigwyddodd yn Llandudno yn gynharach eleni, yn dangos trwy natur troseddau sy’n ymwneud ag arfau peryglus, ei bod yn cymryd un weithred yn unig i achosi niwed ac anaf difrifol.

Llun: Heddlu Gogledd Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.