Dyn ifanc wedi marw mewn gwrthdrawiad ym Mhowys
08/10/2021
Bu farw dyn 23 oed mewn gwrthdrawiad ar ffordd yr A490 ger Cegidfa ym Mhowys ddydd Mawrth.
Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng tri cherbyd am oddeutu 08:00 y bore.
Bu farw Thomas James Dawes oedd yn gyrru un o’r cerbydau yn y fan a’r lle.
Mae teulu Mr Dawes wedi ei ddisgrifio fel “dyn ifanc arbennig y bydd pawb yn gweld ei eisiau yn fawr.”
Mae Heddlu Dyfed Powys yn gofyn i unrhyw un a allai fod wedi bod yn dyst i'r gwrthdrawiad i gysylltu â nhw gan ddefnyddio’r cyfeirnod DP-20211005-033.
Llun teulu drwy Heddlu Dyfed Powys.