Araith Boris Johnson yn cloi Cynhadledd y Ceidwadwyr ym Manceinion

06/10/2021
Boris Johnson
Boris Johnson

Mae Boris Johnson wedi cloi cynhadledd ei blaid ddydd Mercher drwy ganolbwyntio ar agenda’r llywodraeth i  ‘gamu ymlaen’ ('leveling up').

Bron i ddwy flynedd ers llwyddiant y blaid yn etholiad cyffredinol 2019, roedd y Prif Weinidog yn addo “bwrw ymlaen â’r gwaith o uno a chamu ymlaen ar draws y DU”.

Fe gychwynnodd Mr Johnson ei araith drwy ddiolch i'r GIG am ei holl ymdrechion yn ystod y pandemig a’r angen i wella gofal iechyd a gofal cymdeithasol.

“Roeddwn ni’n gallu brechu’r grwpiau hynaf a mwyaf bregus yn gyflymach nag unrhyw economi fawr arall yn y byd,” dywedodd.

“Diolch i’n GIG diflino, diguro ac anghredadwy.

“Rydym yn cydnabod yr holl waith maen nhw wedi cyflawni ond hefyd yr heriau sy’n dod nesaf.

“Mae gennym dwll enfawr yn y cyllid cyhoeddus ac mae’n bwysig mai’r blaid hon sydd wedi gofalu am y GIG trwy gydol ei hoes yw’r un sy’n ei hachub.

“Byddwn yn cyflawni hynny drwy fuddsoddi mewn technoleg newydd a gwneud yn siŵr bod arian yn mynd yn syth i’r rheng flaen.

“Ar ôl degawdau o wywo, mae’r llywodraeth ddiwygio hon yn canolbwyntio ar gyflawni’r broses brechu a gwella gofal cymdeithasol.”

'Sicrhau ein bod yn cymryd ‘cam ymlaen’ i’r holl wlad'

Ychwanegodd y prif weinidog yr angen i wella’r economi a hynny drwy drafnidiaeth a rheoli mewnfudo.

“Dyden ni ddim yn dychwelyd i’r un broses sydd wedi torri,” meddai.

“Nid ydym am ganiatáu mewnfudo sydd heb ei reoli fel modd i gadw cyflogau’n isel.

“Yr ateb yw rheoli mewnfudo er mwyn galluogi pobl gyda sgiliau i ddod i’r wlad yma a dim i ddefnyddio mewnfudo fel esgus am fethu a pheidio buddsoddi mewn pobl.

“Rydw i’n addo ‘camu ymlaen’ ar ran y DU drwy newid cyfeiriad economaidd.

“Bydd ‘camu ymlaen’ yn cymryd y pwysau i ffwrdd o’r de ddwyrain [Lloegr] drwy gynnig gobaith a chyfleoedd i ardaloedd sydd yn teimlo eu bod nhw wedi cael eu gadael ar ôl.

“Byddwn yn sicrhau ein bod yn cymryd ‘cam ymlaen’ i’r holl wlad.

“Mae ein isadeiledd cenedlaethol yn bell tu ôl i rai o’n cystadleuwyr allweddol. Byddwn yn cysylltu dinasoedd canolbarth Lloegr a’r gogledd, gan gynnwys ‘Coridor gogledd Cymru’.

“Rydym yn adeiladu popeth yn well a hynny drwy fuddsoddiad o £640bn i ‘gamu ymlaen’ yn y Deyrnas Unedig.

“’Camu ymlaen’ yw’r prosiect gorau mae unrhyw lywodraeth wedi’i wneud.”

'Araith ar gyfer ei ffyddloniad oedd hwn'

Ar raglen Dros Ginio â Vaughan Roderick ar BBC Radio Cymru yn dilyn yr araith, dywedodd y sylwebydd gwleidyddol Guto Harri: “Fe fydd y delivery yn gwbl wahanol i’r hyn mae Boris Johnson wedi cyflwyno yn y ‘pitch’ ac yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

“Mae angen delivery sydd i’w deimlo, i’w weld, i’w gyfffwrdd ac yn y blaen.

“Ac wrth gwrs, os y’ch chi’n chwilio am hwnna ar y funud y’ch chi’n gweld tystiolaeth i’r cyfeiriad arall.”

Ychwanegodd cyn-Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones: “Ei problem e yw ein bod yn llawn geirie’ ond dim cig.

“O ran addewidion, mae nhw wedi bod mewn llywodraeth am 11 o flynyddoedd a ‘di nhw heb neud e.

“Y broblem nawr yw, be’ mae’n trio neud yw swnio’n optimisaidd – dyna yw ei natur e, mae e moyn dweud wrth bobol fydd pethe’n well.

“Ond nawr, wrth gwrs, ei her e yw delifero ar hwnne. Mae e wedi dweud hynny am ddwy flynedd, ychydig iawn sydd wedi newid.”

Dywedodd Nerys Evans o cwmni cysylltiadau cyhoeddus Deryn: “O ran adloniant, oedd e werth i wylio.

“Does ‘na ddim lot o wleidyddion yn gallu neud ‘na, ond ni mewn sefyllfa sydd yn un ddifrifol ar hyn o bryd.  

“Mae angen arweinyddiaeth a gwleidyddiaeth cry’. Fi’n credu doedd dim cysylltiad â realiti bob dydd pobol yn ein cymunede’ ni.

“Ond wrth gwrs, araith ar gyfer ei ffyddloniad oedd hwn. A felly, mae e wedi delifero iddyn nhw, o ran atgyfnerthu fe fel cymeriad. Ond yn anffodus, ble mae’r manylion?

“Doedd dim ateb i’r crisis fydden ni’n wynebu yn yr wythnosa’ nesa’ ‘ma.”

Llun: @BorisJohnson drwy Twitter

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.