Plaid Cymru am beidio cefnogi pleidlais y llywodraeth ar basys Covid-19
Ni fydd Plaid Cymru yn pleidleisio o blaid cynnig y Llywodraeth i gyflwyno pas Covid-19 gorfodol yn y Senedd nos Fawrth.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig ac unig AS y Democratiaid Rhyddfrydol wedi dweud yn barod na fydda nhw'n cefnogi'r cynnig.
Roedd y llywodraeth yn dibynnu ar gefnogaeth gan ddigon o aelodau'r gwrthbleidiau i gyrraedd y trothwy o fwyafrif o bleidleisiau, gan mai dim ond 30 allan 60 o aelodau sydd gan Lafur yn y Senedd.
Mae cyhoeddiad Plaid Cymru am eu bwriad i beidio cefnogi'r cynnig wedi rhoi holl gynllun pas Covid-19 y llywodraeth yn y fantol.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth, llefarydd Plaid Cymru ar iechyd nad gwrthwynebiad egwyddorol i'r syniad oedd gan Blaid Cymru, ond nad oedd y ddadl wedi ei gwneud yn ddigon llawn gan weinidogion.
Dywedodd bod y cynnig gan Lywodraeth Cymru yn "codi mwy o gwestiynau nag atebion."
"Mae tystiolaeth annigonol ac ychydig iawn o fanylion ar sut y byddai'n gweithio'n ymarferol.
"Pan ry'n ni wedi cefnogi cyfyngiadau, ry'n ni wedi gwneud hynny pan fo'r dystiolaeth yn glir o ran yr effaith bositif y byddai'r mesurau hynny'n eu cael," ychwanegodd.
“Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau a dydyn ni ddim wedi cael ein darbwyllo. Am y rheswm hynny, rydym yn teimlo na allwn gefnogi'r cyfyngiadau hyn heddiw."