Disgyblion uwchradd i gael prawf Covid dyddiol os mewn cyswllt agos ag achosion
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyngor newydd sydd yn awgrymu y dylai disgyblion ysgolion uwchradd neu golegau sydd wedi bod mewn cyswllt agos ag achosion Covid-19 yn y cartref gymryd prawf llif unffordd bob dydd am wythnos.
Y cyngor presennol yw y dylai disgyblion uwchradd gymryd prawf PCR ar yr ail a'r wythfed diwrnod ar ôl bod mewn cyswllt gyda rhywun agos sydd wedi eu heintio.
Fe fydd y drefn newydd o brofion dyddiol am wythnos yn dod i rym ar 11 Hydref.
Mewn diweddariad coronafeirws brynhawn dydd Mawrth, dywedodd y Gweinidog Iechyd Jeremy Miles nad oedd y llywodraeth bellach yn argymell plant o dan bump oed i gymryd profion Covid-19 os nad oedd ganddynt symptomau.
Os oedd plant dan bump oed yn dangos symptomau, yna fe ddylid cymryd prawf dim ond os oedd meddyg yn argymell hyn fel cam "cwbl angenrheidiol."
Dywedodd Mr Miles: "Rydym yn ymwybodol o ba mor anodd y gall hy dasg fod o gael sampl digonol i rieni neu ofalwyr. Felly gallaf gadarnhau na fyddwn bellach yn argymell y dylai plant o dan bump oed gymryd prawf Covid-19 os nad ydynt yn dangos unrhyw symptomau.
"Os ydynt yn dangos symptomau, ni fyddwn fel mater o drefn yn argymell profion os nad oes cais iddynt wneud hyn gan feddyg neu os ydy eu rhiant neu ofalwr yn credu fod prawf yn gwbl angenrheidiol a'r peth gorau i'w wneud i'r plentyn."
Yn y cyfamser mae ffigyrau wythnosol diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi dangos fod 88 o farwolaethau yn gysylltiedig â Covid-19 yng Nghymru - sydd yn gynnydd o 22 ar yr wythnos flaenorol.
Hyd yma, mae 8,280 o farwolaethau yn gysylltiedig â Covid-19 wedi eu cofnodi yng Nghymru ers dechrau'r pandemig.
Roedd yr 88 marwolaeth yn ystod y cyfnod cofnodi wythnosol diweddaraf 22 yn uwch na nifer y marwolaethau wythnosol yn y cyfnod blaenorol.