Newyddion S4C

Murlun i hybu amrywiaeth yng Nghaerdydd wedi'i ddifrodi

05/10/2021
My City My Shirt, murlun, Caerdydd, Tre-Biwt
Ali Abdi (Twitter)

Mae murlun yn ardal Tre-Biwt yng Nghaerdydd oedd wedi ei greu er mwyn hybu amrywiaeth a chynhwysiad wedi cael ei ddifrodi.

Yn dilyn difrodi'r murlun My City, My Shirt ddydd Llun, dywedodd un o'r rhai oedd yn gyfrifol am ei godi fod y difrod yn "drosedd casineb". 

Ar Twitter, dywedodd Ali Abdi: "Mae'r murlun hyfryd #MyCityMyShirt yn Nhre-Biwt wedi cael ei difrodi'n bwrpasol gyda phaent sydd yn edrych fel petai wedi cael ei daflu o'r pafin. 

"Cafodd y murlun yma ei greu i ddathlu amrywiaeth y ddinas drwy bêl-droed. 

"Mae hyn yn drosedd casineb."

Mewn ymateb, dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas: "Mae hyn yn ofnadwy.

"Unwaith eto, mae symbol o bopeth sydd yn wych yng Nghaerdydd wedi ei fandaleiddio gan ganran bach, bach iawn. 

"Dwi'n gobeithio y ceith nhw eu dal yn fuan a'u bod nhw'n dysgu o'u camgymeriadau."

Mae'r gymuned yng Nghaerdydd wedi penderfynu codi arian drwy dudalen GoFundMe er mwyn talu'r costau i ail-baentio'r murlun. 

Mae Newyddion S4C wedi cysylltu â Heddlu De Cymru am ymateb. 

Llun: @AliAbdi_ drwy Twitter

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.