Rhybudd gan yr heddlu am achosion o ddwyn ‘aur Asiaidd’

02/10/2021
Comel Mare
CC

Mae Heddlu’r Gogledd yn rhybuddio pobl i fod yn wyliadwrus yn sgil achosion diweddar o ddwyn aur.

Dywed yr heddlu fod lladron yn targedu gemwaith o burdeb gwerthfawr, sydd fel arfer yn cael eu prynu gan deuluoedd Asiaidd-Prydeinig a’u rhoi fel anrhegion. 

Daw hyn ar ôl i Heddlu Gogledd Cymru adrodd achos o ddwyn ddydd Mercher, 29 Medi, lle cafodd gwerth £2,000 o arian parod ac aur Tsieineaidd ei ddwyn o gartref teulu Tsieineaidd ym Mangor.

O ganlyniad, mae’r llu nawr yn cynghori’r gymuned Asiaidd yn y gogledd, yn enwedig yng ngogledd dwyrain Cymru, i fod yn ofalus wrth sicrhau fod pethau gwerthfawr wedi’u cadw’n ddiogel yn eu cartrefi.

Dywedodd Ditectif Sarjant Jenna Hughes: “Dyden ni ddim yn ceisio dychryn neb.

“Ond mae rhaid i ni rybuddio’r gymuned Asiaidd i fod yn wyliadwrus o’r duedd hon o droseddau lle mae gemwaith aur o werth uchel yn cael eu targedu.

“Er nad ydym wedi derbyn llawer o adroddiadau ar hyn yn lleol eleni, fel arfer pan welsom ni’r math yma o fyrgleriaethau yn digwydd yn ardaloedd cyfagos yn y gorffennol, mae gogledd Cymru, - yn enwedig y dwyrain, yn cael eu targedu.

“Wrth i nosweithiau dywyllu yn ystod misoedd yr hydref a’r gaeaf, rydym yn gweld cynnydd yn y mathau hyn o droseddau.

“Mae’n bwysig fod pobl yn ymwybodol o’r troseddau hyn ac i gymryd gofal ychwanegol i gadw’u pethau gwerthfawr yn ddiogel.”

Mae’r heddlu nawr yn apelio i unrhyw un sydd â gwybodaeth yn dilyn yr achos o ddwyn ym Mangor i gysylltu â’r heddlu ar unwaith ar 101 gan ddefnyddio'r cyfeirnod 21000677511.

Llun: Comell Mare

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.